Canolfan Cywain: gwendidau difrifol yn ôl adroddiad

Canolfan Cywain
Heb y grantiau mi fyddai Canolfan Cywain wedi gwneud colledion o £83,214 yn y blynyddoedd olaf

Wnaeth Llywodraeth Cymru na'r sector gyhoeddus ddim codi digon o gwestiynau ynglŷn â beth oedd bwriad Canolfan Cywain a'r incwm y byddai'r lle yn debygol o'i wneud.

Dyna gasgliad adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.

Mae'r ddogfen yn nodi bod 'na ddiffygion yn y cynllun busnes o'r cychwyn a gormod o bwyslais wedi ei roi ar fanteision posibl y prosiect.

Casgliad arall ydy bod 'na ddim digon o waith craffu er mwyn gwybod beth oedd yn digwydd yn y ganolfan a bod y broses o gau'r ganolfan yn derfynol wedi cymryd gormod o amser.

Cafodd Canolfan Cywain ger y Bala ei hagor yn 2008. Canolfan ar gyfer treftadaeth, bywyd gwledig a cherfluniaeth oedd hi ac Antur Penllyn, cwmni adfywio cymunedol wnaeth ddatblygu'r prosiect.

Colledion sylweddol

Erbyn mis Medi 2011 roedd y ganolfan wedi cau ac mi oedd y cyfarwyddwr yn chwilio am rywun arall i redeg Cywain.

Ond casgliad ymchwiliad gan BBC Cymru'r llynedd oedd bod y datblygiad wedi dod i ben yn gyfan gwbl gyda'r adeilad wedi'i drosglwyddo yn ôl i berchennog gwreiddiol y safle.

Mae Antur Penllyn hefyd wedi dod i ben erbyn hyn.

Tua £2.2 miliwn oedd y ffigwr cychwynnol o ran costau i'r sector gyhoeddus. Ond erbyn i'r lle gau yn 2011 roedd y gost yn fwy na £3.4 miliwn.

Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) sydd yn rhan o Lywodraeth Cymru wnaeth rhoi rhan fwyaf o'r arian, tua 60%. Ond cafodd pres ei roi gan gyrff eraill yn cynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri hefyd.

Dangosodd cyfrifon Antur Penllyn y bydden nhw wedi gwneud colled o £83,214 yn ystod tair blynedd olaf y ganolfan, oni bai eu bod nhw wedi derbyn grant.

Nod yr adroddiad oedd ateb y cwestiwn 'A wnaeth penderfyniadau'r sector gyhoeddus ynglŷn ag ariannu a chau Canolfan Cywain arwain at werth da am arian?' a'r casgliad ydy nad oedd hyn wedi digwydd.

Mae'r ddogfen yn dweud bod yr arian gafodd ei roi i'r prosiect yn seiliedig ar amcangyfrifon "hynod annibynadwy" a ffigyrau "uchelgeisiol". Doedd y cynllun busnes chwaith ddim yn dweud yn glir pa ddigwyddiadau fyddai yn y ganolfan na'r atyniadau.

Ond wnaeth WEFO ddim herio hyn er bod cyrff eraill wedi dweud wrth ei gilydd bod ganddyn nhw bryderon.

Mae'r adroddiad yn dweud: "Ni ddaethom o hyd i unrhyw dystiolaeth bod WEFO wedi gweithredu mewn unrhyw ffordd i ymateb i'r pryderon hyn. Er enghraifft, ni wnaeth WEFO fynd ati wedyn i graffu'n fanylach ar ragdybiaethau allweddol yr achos busnes."

Sêl bendith er y risg

Roedd y rhan fwyaf oedd wedi rhoi arian i Cywain yn ymwybodol bod yna risg ynghlwm â gallu Antur Penllyn i wneud i'r prosiect lwyddo am nad oedd ganddyn nhw arbenigedd ariannol nag arbenigedd rheoli prosiectau.

Ond doedd y mwyafrif ddim yn gweld hyn fel risg allweddol. Doedden nhw chwaith ddim wedi meddwl am y ffordd orau i ddiogelu eu harian os y byddai'r ganolfan yn methu.

Beirniadaeth arall yn y ddogfen ydy bod y cyrff cyhoeddus wedi dibynnu gormod ar waith craffu WEFO am y ganolfan yn hytrach na gwneud hyn eu hunain. Roedd WEFO yn 'cefnogi'r prosiect yn frwd' ac wedi ystyried yn ormodol y manteision allai ddigwydd:

"Dywedodd WEFO wrthym ei bod wedi penderfynu cymeradwyo'r prosiect er gwaethaf y risgiau a nododd mai hwn oedd yr unig brosiect yn yr ardal ddaearyddol, a'i fod yn berthnasol i ymrwymiadau 'Cymru'n Un' i greu swyddi ledled Cymru a datblygu cymunedau gwledig ffyniannus."

Doedd y gwaith o fonitro y Ganolfan ddim yn ddigon da meddai'r adroddiad. Yn 2008 mi roddodd WEFO grant ychwanegol gwerth £350,000 i Cywain heb ofyn am sicrwydd y byddai yn llwyddo.

Diffyg cofnodion

Pwynt olaf y ddogfen ydy bod y rhai wnaeth rhoi arian i'r ganolfan ddim wedi ymateb yn ddigon cyflym i'r bygythiad bod y ganolfan yn mynd i gau a'r broses o'i chau. Noda'r adroddiad hefyd nad oedd 'na gofnodion er mwyn mesur perfformiad y ganolfan o'r diwrnod wnaeth hi agor tan iddi gau.

"Y rheswm am hynny yw na ofynodd unrhyw un o'r cyllidwyr i Antur Penllyn adrodd ar gynnydd yn erbyn y penderfynyddion perfformiad allweddol (fel nifer yr ymwelwyr a gwariant y pen yn y caffi), ac ni wnaeth Antur Penllyn gadw cofnodion o nifer yr ymwelwyr."

Mi gafodd WEFO wybod bod dyfodol Cywain yn edrych yn ansicr ond wnaeth hi ddim rhannu'r wybodaeth yma gyda'r cyrff eraill oedd wedi buddsoddi. Doedd 'na ddim cyfathrebu nes i'r stori dorri yn y wasg bod y ganolfan mynd i gau.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn dweud eu bod nhw wedi cynnal sawl ymchwiliad diweddar i gynlluniau sydd yn cael arian trwy grantiau.

Mae 'na newid wedi bod yn y ffordd mae cyrff cyhoeddus yn rheoli arian grant.

Mi fydd y newidiadau diweddar hyn yn golygu bod 'na lai o debygrwydd i'r un camgymeriadau wnaeth ddigwydd gyda Chanolfan Cywain ddigwydd eto medden nhw.

Ond mae 'na ddau argymelliad yn cael ei wneud yn yr adroddiad. Yr un cyntaf ydy y dylai Llywodraeth Cymru wneud yn siwr bod y rhai sydd yn dewis buddsoddi yn gwybod beth yw'r risg.

Yr ail awgrym ydy bod angen gweithredu yn gyflym i ddiogelu'r arian cyhoeddus pan mae hi yn amlwg bod prosiect yn wynebu problemau.

Wrth ymateb i'r adroddiad mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod gwarchod arian cyhoeddus yn rhywbeth maen nhw'n ei gymryd o ddifri'.

Mae'r llefarydd yn dweud eu bod nhw wedi gwella'r ffordd y maen nhw'n craffu ar brosiectau ac y byddan nhw'n ymateb i'r adroddiad ar ôl ei asesu.

"Er hynny mae'n bwysig cydnabod bod rhaglenni a phrosiectau gan yr UE yn delifrio ar gyfer Cymru. Rydyn ni mewn sefyllfa well rwan oherwydd buddsoddiad hanfodol gan gronfeydd UE, sydd wedi bod gwerth ryw £4 biliwn ers 2000."