Beirniadu gofal iechyd allan o oriau Caerdydd a'r Fro

  • 15 Ebrill 2014
Ambiwlans
Image caption Mae'r cyngor buddiannau cleifion yn credu bod mwy o bobl yn mynd i adran frys yr ysbytai yn "ddiangen" oherwydd methiannau'r gwasanaeth allan o oriau brig.

Mae gofal iechyd y tu allan i brif oriau yn ardal Caerdydd a Bro Morgannwg yn "warthus", yn ôl mudiad sy'n gofalu am gleifion.

Mae'r cyngor iechyd cymuned lleol yn galw am ymchwiliad i'r maes, wedi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fethu cyfres o dargedau'n ymwneud â gofal iechyd y tu allan i oriau dros y flwyddyn ddiwetha'.

Mae cleifion sydd ddim angen gofal brys, ond sy'n methu aros i'w meddygfeydd teulu i agor, yn cael eu cynghori i ddefnyddio'r gwasanaeth y tu allan i oriau.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro eu bod yn adolygu'r gwasanaeth i ymateb i gynnydd mewn galw.

Cyngor

Ar ôl ffonio rhif canolog, mae clinigwr yn ffonio'r claf yn ôl a'u cynghori a oes angen i feddyg ymweld â'r cartref neu a ddylen nhw fynd i un o dri chanolfan - yn Ysbyty Prifysgol Cymru, Ysbyty Brenhinol Caerdydd neu Ysbyty'r Barri ym Mro Morgannwg.

Ond dywedodd Stephen Allen, prif swyddog y cyngor iechyd cymuned lleol, nad ydi'r elfennau sylfaenol hyd yn oed yn digwydd.

"Mae gennym ni bryderon am yr amser mae'n gymryd i bobl gael eu galwadau wedi'u dosbarthu a'u blaenoriaethu, yr amser mae'n cymryd i gleifion sy'n cael eu blaenoriaethu i gael eu gweld gan weithiwr iechyd proffesiynol - un ai yn y ganolfan neu gartref - wedi iddyn nhw gael eu blaenoriaethu, a dyna yw ein pryder mwyaf," meddai.

"Rydym wedi'i godi gyda'r bwrdd iechyd ar nifer o achlysuron ond, yn anffodus, maen nhw wedi bod yn methu eu targedau hollbwysig yn gyson dros y 18 mis diwethaf."

Methu targedau

Mae ystadegau swyddogol yn dangos fod gwasanaeth y tu allan i oriau Caerdydd a'r Fro yn methu â chyrraedd targedau blaenoriaethu ar gyfer asesu pob achos brys o fewn 30 munud a phob galwad arferol o fewn dwy awr bob mis ers Mai 2013.

Ym mis Hydref 2013, roedd un alwad arferol wedi cymryd dros 16 awr i'w hasesu, tra bod enghreifftiau eraill o alwadau brys yn cymryd pum awr i'w hasesu ym mis Hydref 2013 ac ym mis Chwefror 2014.

Fodd bynnag, fe ddaru'r gwasanaeth gyrraedd y targed o adnabod pob cyflwr brys sy'n peryglu bywyd o fewn pum munud bob mis ers Mai 2013.

Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn gwasanaethu poblogaeth o 472,000 ac yn derbyn rhwng 9,000 ac 11,000 o alwadau i'w gwasanaeth allan o oriau bob mis.

'Annigonol'

Dywedodd Mr Allan bod y cyngor iechyd cymuned yn credu fod y gwasanaeth yn annigonol, yn arbennig dros nos, lle nad oes ond un meddyg ar gael ar gyfer yr holl alwadau.

"Yn draddodiadol ar ôl dau o'r gloch y bore, mae pethau'n tawelu ond mae gennym ni bryderon mawr am lefel y gofal meddygol gyda'r nos o 11 o'r gloch ymlaen yn benodol," meddai.

"Os oes gennych chi un meddyg yn goruchwylio'r ganolfan - sydd yn Ysbyty'r Brifysgol yr adeg honno o'r nos - a bod y meddyg hwnnw allan ar y ffordd - wel dyw e ddim yn gallu gwneud y ddau.

"Rwy'n credu bod angen arolwg sylfaenol o sut mae'r gwasanaeth hwn yn gweithredu yng Nghaerdydd a'r Fro - rydym wedi gofyn i'r bwrdd iechyd wneud yr arolwg hwn.

"Rydym yn aros i glywed canlyniad hynny, ond dyw e ddim yn symud yn ddigon cyflym i ni ac yn anffodus, mae cleifion yn dioddef o ganlyniad."

Ychwanegodd: "Mae'n warthus. Does 'na ddim gair arall iddo fo, ac rwy'n teimlo'n flin dros y cleifion hynny sy'n codi'r ffôn heno fydd o bosib angen galw'r gwasanaeth allan o oriau.

Beti George fu'n siarad am ei phrofiad hi o ddefnyddio'r gwasanaeth pan oedd ei chymar, David, yn sâl.

"Rydym yn clywed y bwrdd iechyd yn dweud yn aml fod pobl yn ymddangos yn adrannau brys a fyddai wedi medru cael eu trin mewn gofal sylfaenol.

"Wel, os mai dyna'r sefyllfa, a bod gofal sylfaenol ddim yn cyflawni'r anghenion hynny, yna mae angen i rywbeth ddigwydd a dydy o ddim yn digwydd."

'Mwy o alw'

Mewn ymateb, dywedodd Sue Morgan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Mae'r bwrdd iechyd wedi gweld cynnydd sylweddol yn y galw am wasanaeth o'r fath dros y 18 mis diwethaf.

"Yn ystod amseroedd prysur, yn ystod misoedd y gaeaf er enghraifft, mae'r cynnydd wedi bod cymaint â 31% flwyddyn ar flwyddyn.

"Mae arolwg llawn o'r gwasanaeth ar droed, yn edrych ar sut y gallwn ni wneud gwell defnydd o'n hadnoddau er mwyn ymateb i'r her.

"Yn ddiweddar, rydym ni wedi datblygu gwasanaeth blaenoriaethu arbenigol, yn defnyddio meddygon teulu i ddarparu gwasanaeth o safon uchel yn ogystal â'n gwasanaeth dros y ffôn ac yn y cartref.

"Yn barod, mae'r gwaith hwn wedi sicrhau gwelliannau ond mae mwy i'w wneud ac mae'r bwrdd iechyd yn ystyried nifer o opsiynau yn cynnwys cyflogi nyrsys fyddai'n gallu gweld cleifion yn ein canolfannau ac mewn cartrefi preswyl i ateb y galw mawr ar benwythnosau.

"Mae'r gwasanaeth, fel nifer o wasanaethau gofal eraill, yn gweithio'n gyson i ateb y galw cynyddol amdano.

"Fe hoffem ni ymddiheuro i unrhyw un sy'n anhapus â'r gwasanaeth neu'r gofal maen nhw wedi derbyn ond hefyd hoffem atgoffa pobl i ddefnyddio'r gwasanaeth addas ar gyfer eu hanghenion nhw."

Mae Dr Chris Jones, o Fwrdd Iechyd Cwm Taf, wedi bod yn cynnal arolwg o wasanaeth gofal allan o oriau ar gyfer Llywodraeth Cymru, ac fe fydd safonau newydd a monitro cenedlaethol yn cael eu cyhoeddi'n fuan.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd meincnodi gwasanaethau yn digwydd er mwyn sicrhau darpariaeth deg i gleifion ar draws Cymru."