Abertawe 0-1 Chelsea

Image copyright Getty Images
Image caption Roedd cerdyn coch Chico Flores yn drobwynt

Abertawe 0-1 Chelsea

Yn dilyn buddugoliaethau i Fulham a Chaerdydd ddydd Sadwrn, roedd tîm Garry Monk angen triphwynt yn Stamford Bridge ddydd Sul er mwyn ysgafnhau'r pwysau tua gwaelod yr Uwchgynghrair.

Ond fe gafodd Yr Elyrch ddechrau ofnadwy i'r gêm. Roedd Chico Flores eisoes wedi gweld cerdyn melyn am dacl flêr ar Willian pan aeth i mewn am dacl arall fyrbwyll ar Andre Shurrle.

Ail gerdyn melyn gan y dyfarnwr Phil Dowd oedd y canlyniad, a bu'n rhaid i Abertawe chwarae am 75 munud gyda deg dyn.

Cyn y digwyddiad anffodus yna, roedd Abertawe wedi creu dau gyfle, ond roedd Petr Cech yn effro i arbed cynigion Pablo Hernandez a Wilfried Bony.

Chelsea gafodd y cyfle gorau yn y cyfnod cynnar ond fe wastraffodd Mohammed Salah y cyfle hwnnw.

Wedi i Lerpwl ennill yn gynharach yn y dydd roedd pwyntiau llawn yn hanfodol i Chelsea os am barhau gyda'r frwydr am y bencampwriaeth hefyd, a'r tîm cartref oedd fwya' mentrus.

Ond erbyn diwedd yr hanner cyntaf, roedd Abertawe nid yn unig yn dal eu tir, ond yn mentro gydag ambell gynnig eu hunain.

Gyda Chelsea'n mwynhau mwyafrif llethol y meddiant roedd cyfleoedd yn siwr o ddilyn yn yr ail hanner, ond wedi 57 munud fe wastraffwyd un euraid gan Samuel Eto'o pan ergydiodd heibio'r postyn o chwe llath gydag ond y golwg i'w guro.

Roedd hi'n greulon mai camgymeriad gan golwr Abertawe arweiniodd at y gôl pan ddaeth wedi 67 munud. Roedd ergyd Demba Ba yn agos at Michel Vorm, ond rhywsut fe lithrodd y bêl drwyddo ac roedd Chelsea ar y blaen.

Er gwaetha'u hymdrechion doedd dim modd i'r deg dyn ganfod ffordd drwy amddiffyn profiadol Chelsea.

Mae'r golled yn gadael Abertawe yn 15fed - tri phwynt yn unig uwchben y tri isaf gyda phedair gêm yn weddill.