Bydd lluniau Cymro o sêr roc enwog i'w gweld yng Nghaerdydd

  • 6 Ebrill 2014
Elvis Costello
Elvis Costello yn perfformio 'Detectives' yng nghlwb El Mocambo yn Toronto

Bydd lluniau o rai o sêr roc enwoca'r byd, gafodd eu tynnu gan ffotograffydd o Gaerdydd, yn cael eu harddangos yng Nghymru.

Mae'r arddangosfa o waith Chalkie Davies yn cynnwys delweddau o'r 1970au a 1980au o Debbie Harry o grŵp Blondie, David Bowie a Bruce Springsteen.

Mae'r lluniau yn dyddio'n ôl i'r cyfnod pan roedd Chalkie Davies yn gweithio i gylchgrawn cerddoriaeth yr NME, gyda llawer o'r sêr yn ymddangos yn nhudalennau'r cylchgrawn hwnnw.

Bydd y casgliad yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru'r flwyddyn nesaf.

The Clash
Llun o fand The Clash yn dilyn rhyddhau eu record hir gyntaf yn 1977.
Debbie Harry
Debbie Harry yn 1977

Yn enedigol o Fro Morgannwg, fe dreuliodd Mr Davies bedair blynedd yn hyfforddi fel peirianydd awyrennau cyn dewis newid cyfeiriad er mwyn bod yn ffotograffydd.

Fe ymunodd Mr Davies, sydd bellach yn byw yn Efrog Newydd, â chylchgrawn yr NME yn 1975 a gweithio yno tan 1979.

Bu hefyd ar daith gyda Paul McCartney, Elvis Costello a Thin Lizzy, gan dynnu llun gafodd ei ddefnyddio gan y band hwnnw fel clawr i'w halbwm 'Live and Dangerous'.

Phil Lynott
Phil Lynott o fand Thin Lizzy gydag edmygwyr yng ngorsaf Tokyo yn ystod taith y grŵp i Siapan.
Bruce Springsteen
Bruce Springsteen yn edrych ar ei enw ar hysbyseb tu allan i'r Hammersmith Odeon yn Llundain yn 1975.

Ond daeth ei deithio gyda bandiau i ben yn 1980 er mwyn iddo ganolbwyntio ar ffotograffiaeth stiwdio, lle arbennigodd mewn tynnu lluniau du a gwyn.

Roedd yn gyfrifol am dynnu lluniau ar gyfer dwsinau o gloriau albymau, i fandiau fel The Specials, The Pretenders, The Who, Pete Townshend, Elvis Costello, David Gilmour a Robert Plant.

Mae casgliad o 33 ffotograff gan Chalky Davies yn cael eu harddangos yn Llundain ar hyn o bryd ond fe fydd yr arddangosfa yn symud i Gaerdydd rhwng mis Mai a mis Awst 2015.

Ian Dury
Ian Dury ar ôl ymweld â'r deintydd yn yr Unol Daleithiau yn 1977.