Codi treth y cyngor ar ail gartrefi dan gynllun newydd?

Carl Sargeant
Image caption Yn ôl Carl Sargeant mae ail gartrefi yn gallu effeithio ar gyflenwad tai yn lleol

Fe allai treth y cyngor ar dai haf ac ail gartrefi ddyblu o dan gynlluniau sydd yn cael eu trafod gan Lywodraeth Cymru.

Byddai awdurdodau lleol yn derbyn grymoedd i godi treth y cyngor o 100% ar bobl sydd yn berchen ar ail dŷ o dan y cynlluniau newydd.

Mae'r grymoedd newydd yn rhan o ddiwygiad i'r Mesur Tai, sydd wedi ei ddiwygio gan weinidogion yn dilyn ymgynghoriad.

Daeth croeso i'r cynlluniau gan Blaid Cymru a chynghorau lleol, ond fe ddywedodd y Ceidwadwyr y gall y fath gamau gosbi pobl sydd wedi buddsoddi cynilion bywyd mewn ail gartrefi.

Yr amcangyfrif yw bod 23,000 o dai Cymru yn wag, yn dai haf neu'n ail gartrefi.

Dywedodd y Gweinidog Tai Carl Sargeant ei fod wedi cysidro "yr effaith y gall ail gartrefi ei gael ar gyflenwad tai mewn cyfnod lle mae cymaint o unigolion a theuluoedd yn cael trafferth i fod yn berchen ar gartref iddyn nhw eu hunain".

'Fforddiadwy'

Yn ôl y Gweinidog: "Tra bod ail gartrefi yn gallu bod o fantais i'r economi leol a thwristiaeth, mae'r ffaith fod pobl yn byw ynddyn nhw am ran o'r flwyddyn yn unig yn golygu y gall hyn gael effaith wael ar gyflenwyr gwasanaethau lleol ac argaeledd tai fforddiadwy i bobl leol."

Dywedodd Mr Sargeant y gallai cynghorau gyda nifer uchel o ail gartrefi yn eu hardaloedd feddwl ei fod yn angenrheidiol i bobl sydd gyda mwy nag un tŷ i dalu premiwm treth y cyngor, ac felly "gwneud cyfraniad i ddarpariaeth gwasanaethau lleol a thai fforddiadwy drwy'r system drethu leol".

Fe wnaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru groesawu'r cynllun, ond gan ychwanegu fod yna achos i gynghorau gael "hyblygrwydd llwyr" ar bennu lefel y dreth oedd i'w dalu.

Dywedodd Dyfed Edwards, arweinydd Cyngor Gwynedd a llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar dai ei fod yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r trothwy treth ar ôl i'r system newydd ddod i rym.

"Fe ddylid gweld y grymoedd ychwanegol hyn fel cydnabyddiaeth o'r effaith mae ail gartrefi yn ei gael ar gynaladwyedd tymor hir cymunedau lleol," meddai

'Amwyster'

Dywedodd Mark Isherwod AC ar ran y Ceidwadwyr y gallai'r "amwyster" ynglyn â diffiniad ail gartrefi arwain at ddryswch ac ymdriniaeth wahanol ar hyd Cymru

"Mae yna berygl gwirioneddol y gall perchnogion ail gartrefi, sydd wedi buddsoddi cynilion oes i wireddu eu breuddwydion, gael eu cosbi a'u taro galetaf," meddai.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar dai, Jocelyn Davies, fod codi 100% o dreth y cyngor ar dai haf ac ail gartrefi yn îs na'r awgrym o gynnydd o 200% fel sydd wedi cael ei awgrymu gan ei phlaid hi.

"Ond os yw hyn yn golygu fod tai cymdeithasol a fforddiadwy ychwanegol yn cael eu hadeiladu, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru, yna fe fydd yn gam ymlaen o'r sefyllfa bresenol," meddai.

Straeon perthnasol