Pwerau ariannol 'fel yr Alban' yn ôl Owen Smith

  • 30 Mawrth 2014
Owen Smith

Ar ail ddiwrnod cynhadledd y Blaid Lafur Gymreig yn Llandudno, dywedodd llefarydd Llafur ar Gymru, Owen Smith y byddai Llywodraeth Lafur y dyfodol yn sicrhau'r un pwerau ariannol i Gymru a'r Alban, yn dilyn refferendwm.

Dywedodd Mr Smith mai bwriad ei blaid fyddai cynyddu faint o dreth incwm fyddai wedi ei ddatganoli - i hyd at bymtheg ceiniog ymhob punt.

Fyddai hyn, meddai, yn galluogi Llywodraeth Cymru i reoli dros draean o'r holl drethi mae'n ei wario.

Byddai Llywodraeth Lafur y dyfodol hefyd yn galluogi Cymru i ail-gyflwyno'r trothwy treth 50c.

Ychwanegodd Mr Smith y byddai hyn yn arwain at fwy o atebolrwydd o fewn gwaith y Cynulliad yn ogystal â galluogi'r corff i fenthyca mwy o arian.

'O fudd i bobl Cymru'

Dywedodd AS Pontypridd y byddai refferendwm yn cael ei gynnal tase llywodraeth Lafur yng Nghymru yn penderfynu bod Cymru'n derbyn cyllid teg.

Mae Llywodraeth Cymru yn dadlau bod diffyg o tua £300m mewn cyllid bob blwyddyn.

"Byddai angen iddo fod o fudd i bobl Cymru - dyna'r unig bwynt i gynnal refferendwm," meddai.

"Efallai na fydd yn digwydd wrth gwrs, ond fe fyddwn ni'n gobeithio y byddai'n digwydd o dan lywodraeth Lafur."

Ar hyn o bryd mae aelodau seneddol yn trafod cynigion gan y llywodraeth glymblaid sy'n cynnwys refferendwm ar bwerau amrywio trethi gyda chyfyngiadau.

Byddai'r system, sy'n cyfyngu'r gallu i amrywio trethi, yn golygu na fyddai Llywodraeth Cymru yn gallu targedu'r rhai sy'n ennill cyflogau uwch neu is.

'Cystadleuaeth dreth'

Dywedodd Mr Smith bod angen osgoi creu "cystadleuaeth dreth" rhwng y gwahanol rannau o'r Deyrnas Gyfunol.

Wrth annerch y gynhadledd roedd Mr Smith yn feirniadol iawn o'r Llywodraeth Glymblaid. Hefyd ddydd Sul, roedd Mr Smith wedi parhau â dadl y Blaid Lafur bod y Ceidwadwyr yn "ymosod" ar wasanaethau cyhoeddus Cymru.

Ddydd Sadwrn dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, y byddai Llywodraeth Lafur yn sicrhau llai o ddryswch ynglŷn â phwerau'r Cynulliad.

Dywedodd y byddai ei blaid yn ymestyn pwerau datganoli yng Nghymru petai'n ennill yr Etholiad Cyffredinol nesa yn 2015.

Yn ei araith ddydd Sadwrn, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones bod ei blaid yn brwydro yn ôl yn erbyn yr "ymosodiadau" gan y Ceidwadwyr ar y gwasanaeth iechyd, y system addysg, yr iaith Gymraeg ac ar y broses o ddatganoli.

Ond roedd hefyd yn cydnabod bod 'na enghreifftiau o ofal gwael o fewn y gwasanaeth, oedd meddai ef yn "annerbyniol".

Mae'r blaid yn credu bod ymosodiadau "cyson" ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn gwylltio selogion Llafur ac yn eu hannog i ganfasio.

Yn ôl aelodau Llafur, mae'r slogan oedd yn cael ei ddefnyddio adeg etholiadau'r Cynulliad yn 2011 - Sefyll Cornel Cymru - yr un mor berthnasol ar gyfer etholiad Ewrop ym mis Mai.