Miliband yn gaddo rhoi diwedd ar ddryswch datganoli

  • 29 Mawrth 2014
Ed MIliband
Dywedodd Mr Miliband y byddai'n sicrhau bod Cymru yn yr un sefyllfa â'r Alban

Mae arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, wedi cyhoeddi y byddai ei blaid yn ymestyn pwerau datganoli yng Nghymru petai'n ennill yr Etholiad Cyffredinol nesa yn 2015.

Addawodd y byddai llywodraeth Lafur yn sicrhau llai o ddryswch ynglŷn â phwerau'r Cynulliad.

Dywedodd wrth y gynhadledd y byddai'n deddfu fel bod pwerau datganoli'n cael eu cymryd yn ganiataol, oni bai eu bod yn cael eu nodi'n wahanol.

Dywedodd Mr Miliband y byddai hyn yn sicrhau bod Cymru yn yr un sefyllfa â'r Alban.

'Nifer o heriau'

Cafodd y cynllun ei gynnig gan ail ran o ymchwiliad Comisiwn Silk i ddatganoli yng Nghymru.

Yn ychwanegol, dywedodd Mr Miliband bod Llywodraeth Cymru yn dangos y gwahaniaeth y gallai ei blaid gyflawni, ond roedd yn cydnabod bod y gwasanaeth iechyd yn parhau i wynebu nifer o heriau.

Daeth ei sylwadau wedi beirniadaeth barhaus o berfformiad y gwasanaeth iechyd yng Nghymru gan weinidogion Ceidwadol Llywodraeth Prydain.

Mae'r cynllun i ddatganoli rhagor o bwerau i Gymru oni bai bo rhai yn cael eu neilltuo, yn rhan o'r hyn mae Comisiwn Silk yn ei gynnig.

"Rydym i gyd yn cofio beth ddigwyddodd pan geisiodd Cymru gadw'r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol ac amddiffyn gweithwyr fferm oedd mewn sefyllfa fregus," meddai Mr Miliband.

"Daeth y ffrae i ben gyda sefyllfa chwerthinllyd gyda'r Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol yn mynd i'r Goruchaf Lys i geisio atal Llywodraeth Cymru rhag sicrhau tegwch o fewn amaethyddiaeth.

"Mae hyn yn anghywir, ac o dan lywodraeth Lafur fyddai hyn byth, byth yn digwydd eto."

'Ail gydio mewn bröydd Cymraeg'

Mewn cyfarfod yn ystod y gynhadledd bu Cymdeithas Cledwyn yn trafod y thema o "Ail gydio yn y Bröydd Cymraeg".

Dywedodd un o'r siaradwyr, y cynghorydd Llafur Sion Jones, bod Llywodraeth Cymru'n gyfrifol am yr iaith a'r "dasg heriol i ddatblygu polisïau perthnasol i ddatblygu'r iaith".

Yn ôl y cynghorydd dros ardal Bethel yng Ngwynedd, mynnodd bod rhaid i'r Blaid Lafur ddangos "ymrwymiad i'r iaith", a bod rhaid i'r broses honno ddechrau'n fewnol o fewn y blaid drwy sicrhau bod dogfennau dwyieithog yn cael eu defnyddio.

Ychwanegodd bod angen edrych yn fanylach ar effaith dogfen polisïau cynllunio Tan 20 ar yr iaith a bod angen i'r Blaid Lafur weithio'n agosach gyda mentrau iaith ac ymgyrchwyr iaith.

Yn ôl un arall o'r siaradwyr, y Farwnes Eluned Morgan, roedd gwaith ymchwil gan Gymdeithas Cledwyn yn 2008 yn dangos bod angen adennill tir yn y bröydd Cymreig.

Dywedodd bod angen cefnogi'r iaith y tu hwnt i waliau ysgolion, mewn tafarndai ac ar feysydd chwarae. Roedd hefyd am weld defnydd o'r iaith sy'n llai ffurfiol.

'Dechrau rhyfel ar Gymru'

Yn ddiweddarach brynhawn Sadwrn, bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn ceisio unioni sefyllfa'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi ymosodiadau diweddar y Ceidwadwyr ar y gwasanaeth.

Fe fydd yn cyhuddo gweinidogion Llywodraeth Prydain o "ddechrau rhyfel y Ceidwadwyr ar Gymru" gan fygwth buddsoddiadau posib.

Mae'r Blaid Lafur yn dadlau bod y Ceidwadwyr yn ymddwyn yn ymosodol ar Gymru er mwyn ennill pleidleisiau yn Lloegr.

"Yn ddyddiol, 'da ni'n gweld un ymosodiad ar ôl y llall ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru a'r rhai sy'n gweithio ynddo. Mae'r un peth yn wir am ein hysgolion a'n hathrawon, at yr iaith Gymraeg, ein heconomi, at ddatganoli ac at Gymru ei hun," dywedodd Mr Jones.

Gydag etholiadau Ewrop ar y gorwel fis Mai, bydd yn galw am gefnogaeth gan ffyddloniaid ei blaid.

Mae'r Blaid Lafur yn credu bod ymosodiadau "cyson" ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn gwylltio selogion Llafur ac yn eu hannog i ganfasio.

Yn ôl y blaid, mae'r slogan oedd yn cael ei ddefnyddio adeg etholiadau'r Cynulliad yn 2011 - Sefyll Cornel Cymru - yr un mor berthnasol ar gyfer etholiadau Ewrop.