Dirwy i Napoli yn dilyn gêm Abertawe

  • 28 Mawrth 2014
Cefnogwyr Abertawe
Roedd llawer o'r cefnogwyr aeth i'r Eidal i weld y gêm wedi colli'r gic gyntaf

Mae'r corff sy'n rheoli pêl-droed Ewropeaidd wedi rhoi dirwy o 26,000 ewro (£21,500) i glwb Napoli, wedi i gannoedd o gefnogwyr Abertawe golli dechrau eu gêm yng Nghynghrair Europa yn yr Eidal.

Roedd cefnogwyr yr Elyrch wedi wynebu "oedi diangen" ar ddechrau'r gêm ar Chwefror 27.

Roedd y rhai cafodd eu heffeithio gan yr oedi ar fysiau oedd yn cael eu goruchwylio gan yr heddlu, i sicrhau eu bod yn cyrraedd Stadio San Paolo yn ddiogel.

Cafodd y bysiau eu darparu wedi i gefnogwyr timau eraill wynebu trwbwl mewn gemau yn y ddinas.

Ond dywedodd hyd at 700 o'r 900 o gefnogwyr eu bod wedi colli hanner awr gyntaf y gêm, sef ail gymal y gêm yn rownd 32 olaf y gystadleuaeth.

Roedd cefnogwyr wedi cael eu cynghori i osgoi trafnidiaeth gyhoeddus a defnyddio'r bysiau oedd yn cael eu goruchwylio gan yr heddlu i osgoi unrhyw wrthdaro posib gyda chefnogwyr y tîm cartref.

Aeth yr Elyrch ymlaen i golli o 3-1.

Cafodd Napoli eu dirwyo am drefniadau annigonol, a hefyd am i gefnogwyr ddangos baneri anghyfreithlon a thaflu tân gwyllt.

Mae'r BBC wedi gofyn i glwb Abertawe am ymateb.