Pryder am safon gwaith Y Lle Celf yn yr Eisteddfod

Y Lle Celf

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi codi pryderon am safon y gwaith celf sydd yn cael ei arddangos yn yr arddangosfa gelf ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae'r Lle Celf yn denu tua 40,000 o ymwelwyr y flwyddyn, ac yn derbyn canran o'r £75,000 o gymhorthdal mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ei ddarparu i'r Eisteddfod.

Ond mae cofnodion cyfarfod y Cyngor o fis Hydref 2013, a welwyd gan BBC Cymru, yn nodi bod rhai aelodau wedi mynegi "pryder am safon y gelfyddyd yn y Lle Celf" ym mhrifwyl Sir Ddinbych y llynedd.

Dywedodd swyddog celfyddydau gweledol yr Eisteddfod nad oedd cynllun i newid y ffordd mae gweithiau celf yn cael eu dewis.

'Pryder am safon y gelfyddyd'

Dywedoddodd aelodau'r Cyngor bod angen "sgyrsiau penodol am y Lle Celf a'r hyn a oeddem yn ei gael yn ôl yn gyfnewid am ein buddsoddiad," ac yng nghyfarfod fis Rhagfyr gofynnodd y Cyngor i "gyfeiriad artistig" y Lle Celf gael ei gynnwys yn amodau'r grant.

Dywedodd swyddog celfyddydau gweledol yr Eisteddfod, Robyn Tomos, nad oedd y Cyngor wedi codi'r pryderon gydag ef, a doedd yna ddim cynllun i newid y broses o ddewis gweithiau ar gyfer y Lle Celf.

Dywedodd: "Dyw e ddim yn syndod fod aelodau'r cyngor a'r swyddogion yn trafod natur a chyfansoddiad arddangosfeydd y Lle Celf - mae hynny i'w ddisgwyl.

"Dydy cyfeiriad artistig ddim yn rhan o'r celfyddydau gweledol (yn yr Eisteddfod). Mae hi i fyny i'r detholwyr annibynnol i ddewis cynnwys yr arddangosfa.

"Dydy'r arddangosfa agored ddim wedi cael unrhyw themâu neu gategorïau ers 1992, ers dros 20 mlynedd."

Pan ofynnwyd oes odd unrhyw gynlluniau i newid y Lle Celf yn y dyfodol, ychwanegodd Mr Tomos: "Rydym yn edrych ati bob blwyddyn, mae pethau yn parhau i newid."

Cymhorthdal o £75,000

Mae'r Eisteddfod yn derbyn cymorthdal gwerth £75,000 gan Gyngor Celfyddydau Cymru, sy'n talu am farchnata a thywyswyr ar y maes, ac am y gost o symud a gosod gweithiau celf.

Mae'r grant hefyd yn talu am bresenoldeb y Cyngor Celfyddydau yn y Lle Celf yn ystod yr wythnos.

Roedd safon y gweithiau yn yr arddangosfa yn 2013 wedi ysgogi trafodaeth o fewn y Cyngor, yn ôl ei gyfarwyddwr celfyddydau David Alston.

"Mae yna bob amser ddadlau am yr arddangosfa, a dydy hi ddim yn syndod i ddadl fywiog ddatblygu yn y Cyngor am natur y gwaith," meddai.

"Mae gan yr arddangosfa gynulleidfa fawr iawn, a dydyn nhw ddim o reidrwydd yn rhai sy'n mynd i orielau fel arfer. Felly mae'n gyfarfod holl bwysig rhwng y cyhoedd a chelf, ac rydym yn ei werthfawrogi oherwydd hynny."

Dywedodd Mr Alston ei fod yn bersonol wedi croesawu'r dewis o 25 o artistiaid ifanc ar gyfer yr arddangosfa y llynedd, ond roedd eraill yn teimlo bod rhaid cynyddu'r nifer o artistiaid a oedd wedi cael cyfle i aeddfedu yn eu gyrfaoedd.

"Rwy'n meddwl fod 'na deimlad fod hi yn arddangosfa arwynebol, ac efallai doedd hi ddim wedi creu cysylltiad gyda'r gynulleidfa gymaint â wnaeth rhai yn y gorffennol, ond fe fydd wastad trafodaeth am yr arddangosfa" meddai.

Barn yr artist

Enillodd Elfyn Lewis y fedal aur am gelf fain pan gafodd ei waith ei dewis ar gyfer arddangosfa y Lle Celf yn 2009.

Dywedodd wrth BBC Cymru: "Dylai eich oedran chi ddim bod yn broblem. Dwi'n meddwl fod ansawdd da yn dod i'r brig beth bynnag yw eich oedran. Mae'n beth da fod hi'n gystadleuaeth agored, oherwydd mi all unrhyw un gystadlu.

"Dwi'n meddwl os ydych chi'n cyflwyno gwaith i'r detholwyr yna mi ddylai'r gwaith gael ei arddangos os yw'n ddigon da.

"Mae rhai blynyddoedd yn y Lle Celf yn well nag eraill, ac efallai dyna beth sydd y tu ôl i hyn. Doeddwn i ddim yn meddwl ei bod hi'n ddrwg llynedd, mae hi ond yn safbwynt personol rhywun ac mi rydw i yn anghytuno a hi," meddai.

Mae'r Eisteddfod wedi bod yn casglu barn ymwelwyr am y Lle Celf dros y misoedd diwethaf, gyda'r bwriad o greu cynllun pum mlynedd i'r arddangosfa.

Straeon perthnasol