Câr dy gymydog

"The Welsh are cordially liked and heartily respected by all their fellow-subjects, as a gallant and most gifted race. Year by year the English know them better, and year by year the English like them more. There is really not even a lingering trace of national jealousy."

O golofn olygyddol y Daily Telegraph y daw'r dyfyniad uchod ond efallai eich bod yn gallu synhwyro o'r ieithwedd nad o rifyn diweddar o'r papur mae'n dod. Ysgrifennwyd y geiriau yna yn ôl yn 1867 a da yw gwybod bod eiddigedd cenedlaethol wedi hen ddiflannu erbyn y flwyddyn honno.

Nawr dyma i chi ddyfyniad arall.

"I have listened to a group of parents in West Wales who have fought a fruitless battle to secure what one might regard as a basic parental right — to have their children taught in English as opposed to Welsh.

I have listened to the despair of a Cardigan mother who has been told not to read to her children in English at home because it 'confuses' them. 'My six-year-old cannot go to the toilet until she asks in Welsh,' she says."

O erthygl yn y Daily Mail rhai dyddiau yn ôl y daw'r ail ddyfyniad ac mae'n gymharol amlwg taw at yr erthygl honno yr oedd Carwyn Jones yn cyfeirio pan ddywedodd hyn yn y siambr y cynulliad ddydd Mawrth.

"...mae'n rhaid imi ddweud fy mod wedi cael fy nhrwblu'n fawr iawn dros y dyddiau diwethaf gan rai o'r erthyglau sydd wedi'u hysgrifennu ym mhapurau Llundain sydd yn rhoi rhyw fath o farn taw'r iaith Gymraeg yw problem Cymru, a bod problemau yng Nghymru o achos y ffaith bod gormod o bwyslais ar yr iaith Gymraeg... Nid yw'r ffaith bod gennym yr iaith Gymraeg yn ein dal ni yn ôl. Nid 1847 yw'r flwyddyn; mae'r iaith Gymraeg yn rhywbeth y gallwn i gyd ei ddathlu a hefyd ei gefnogi."

Cyfeirio at Frad y Llyfrau Gleision oedd y Prif Weinidog wrth sôn am 1847 a marciau llawn iddo am wybod ei hanes - ond fel mae'n digwydd mae'r stori tai bach yna yn un llawer mwy diweddar ei tharddiad.

Neil Kinnock oedd yn gyfrifol am y cyhuddiad gwreiddiol gan honni bod y plentyn anffodus wnaeth gwlychu eu trowsus yn mynychu ysgol yn Sir Feirionydd. Ar ôl methu cynhyrchu tystiolaeth o Feirion fe honnwyd mai ar ynys Môn y digwyddodd y peth - ond doedd dim tystiolaeth o hynny ychwaith.

Pa ots? Ers hynny, mae'r stori wedi hongian o gwmpas fel oglau drwg i'w hatgyfodi bob tro y mae rhyw bolemic neu'i gilydd yn cael ei sgwennu ynghylch yr iaith.

Mae'r ffaith bod y stori yn ail-ymddangos nawr yn broblem i un o bleidiau'r cynulliad - ond nid plaid Neil Kinnock y tro yma.

Mae 'na bryderon cynyddol yn rhengoedd y Ceidwadwyr ynghylch tôn a chynnwys rhai o'r ymosodiadau diweddar ar lywodraeth Cymru gan wleidyddion a phapurau asgell dde o'r tu hwnt i Glawdd Offa. Yr ofn yw y bydd y blaid yn cael ei gweld fel un sy'n wrth Gymreig os ydy'r ymosodiadau yn lledaenu o fod yn feirniadaeth o'r llywodraeth a'i pholisïau i rywbeth mwy cyffredinol ynghylch Cymru a Chymreictod.

Mae David Cameron ac eraill ar frig y blaid yn San Steffan yn deall y pwynt yn iawn ond mae'n amlwg nad yw hynny'n wir am bawb a bod golygydd y Telegraph ers talwm braidd yn optimistaidd ynghylch pa mor dda y mae ambell i Sais yn adnabod ei gymdogion.