Ffrae dros drydaneiddio rheilffyrdd yn dwysau

  • 26 Mawrth 2014
trydaneiddio rheilffyrdd
Image caption Mae cynlluniau ar y gweill i drydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd a'r brif linell o Lundain i Abertawe

Mae'r ddadl rhwng San Steffan a Bae Caerdydd dros bwy ddylai fod yn gyfrifol am ariannu cynllun i drydaneiddio rheilffyrdd y cymoedd a Llundain-Abertawe wedi dwysau.

Wedi cyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn San Steffan fore Mercher, honnodd Carwyn Jones bod ymateb Llywodraeth Prydain i'w gwestiynau ynglyn â chyllido'r prosiectau wedi cymhlethu'r sefyllfa.

Mae'r Prif Weinidog yn dweud mai Llywodraeth y DU ddylai dalu, tra bod gweinidogion yn San Steffan yn dweud eu bod wedi cytuno ddwy flynedd yn ôl mai Cymru fyddai'n talu.

Dywedodd Swyddfa Cymru nad oedd eu sefyllfa nhw wedi newid ers hynny.

Eglurder

Dywedodd Mr Jones ei fod wedi gobeithio cael eglurder, ond bod y cyfarfod wedi gwneud y mater yn waeth.

"Yn gyntaf, fe ddywedon nhw y bysen nhw'n talu am y trydaneiddio, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, yna, yn yr un gwynt, fe ddywedon nhw na fuasen nhw," meddai.

"Yna fe ddywedon nhw y bysen nhw'n trafod y peth, yna fe ddywedon nhw na fuasen nhw."

Ychwanegodd bod y sefyllfa yn "anghredadwy".

"Dydy'r rheilffyrdd ddim wedi cael eu datganoli. Does gennym ni ddim cyllideb ar gyfer rhwydwaith rheilffyrdd.

"Dywedodd Ysgrifennydd Cymru a'r Prif Weinidog mewn cyfweliad â'r BBC y byddai Llywodraeth Prydain yn talu am drydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe ac i'r Cymoedd.

"Nawr, ry'n ni'n cael ein gofyn i gredu bod beth ddywedodd y Prif Weinidog yn gwbl anghywir."

'Brolio'

Dywedodd Mr Jones ei fod yn credu bod Llywodraeth y DU wedi bod yn "brolio'r ffaith eu bod nhw'n mynd i dalu am drydaneiddio", ond eu bod nhw nawr yn ceisio tynnu'n ôl.

"Mae Llundain yn cael £4.7biliwn ar gyfer crossrail, £2.2biliwn ar gyfer HS2 ond dyden nhw ddim yn gallu dod o hyd i'r arian i dalu am drydaneiddio llinell y Cymoedd er gwaetha'r ffaith nad yden nhw'n fodlon rhoi'r pwerau na'r gyllideb i ni ei wneud ein hunain."

Ychwanegodd: "Dyw Llywodraeth Prydain ddim yn dangos y parch dyledus i'r holl bobl yng Nghymru, ac mae'n ymddangos nad yw'r Prif Weinidog chwaith, os nag yw e'n barod i gefnogi y geiriau a ddefnyddiodd ym mis Hydref.

Gofynnodd y Prif Weinidog am weld tystiolaeth o gytundeb gan Ysgrifennydd Cymru, David Jones.

Ychwanegodd hefyd bod atgofion y Gweinidog Trafnidiaeth ar y pryd, Carl Sargeant "yr union yr un peth a minnau".

"Doedd dim cytundeb gweinidogol ar unrhyw bryd i Lywodraeth Cymru dalu am drydaneiddio llinell y Cymoedd neu am y rhan o'r brif linell rhwng Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr."

'Cuddio embaras'

Ar ôl y cyfarfod, dywedodd llefarydd ar ran San Steffan bod "Carwyn Jones yn ceisio dechrau brwydr heb sylweddoli beth yw'r cefndir i gyd. Mae'n dechrau brwydr i guddio embaras a thynnu sylw i ffwrdd.

"Mae'r gohebu rhwng Llywodraethau Prydain a Chymru yn dangos yn glir bod cytundeb wedi bod.

"Fe wnaeth y Gweinidog ar y pryd, Carl Sargeant, gamgymeriad."

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Cymru nad oedd safbwynt Llywodraeth y DU wedi newid "ers y cytundeb cyntaf" yng Ngorffennaf 2012.

"Roedd y cytundeb yn 2012 yn dangos ein hymrwymiadau. Mae bron i ddwy flynedd o waith gan weinidogion a swyddogion o'r ddwy ochr wedi bod i geisio gwireddu'r prosiect.

"Mae achos busnes Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn glir ei fwriad i ariannu a rheoli'r prosiect."

Ychwanegodd y llefarydd bod y ddwy lywodraeth yn cytuno ar bwysigrwydd y cynllun, ond "nad yw safbwynt Llywodraeth y DU wedi newid".

Straeon perthnasol