'Y Gymraeg ar groesffordd' yn Sir Gaerfyrddin

  • 25 Mawrth 2014
Cyngor Sir Gâr
Yn 2011 roedd 43.9% o boblogaeth Sir Gaerfyrddin yn siarad Cymraeg, gostyngiad o 6.4%.

Mae'r iaith Gymraeg ar groesffordd yn Sir Gaerfyrddin, yn ôl gweithgor gafodd ei sefydlu wedi canlyniadau'r Cyfrifiad.

Fe wnaeth canran y siaradwyr Cymraeg y sir ostwng i lai na hanner y boblogaeth am y tro cyntaf erioed, yn ôl Cyfrifiad 2011.

Mewn adroddiad gafodd ei gyhoeddi dydd Mawrth - Y Gymraeg yn Sir Gâr - mae'r gweithgor amlbleidiol wedi argymell blaenoriaethau mewn wyth maes, gan gynnwys addysg.

Dywedodd yr adroddiad y dylai holl ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg yn raddol fod yn ysgolion sy'n dysgu yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg.

Addysg

Mae'r adroddiad hefyd wedi sôn am yr angen i ddatblygu addysg gyfrwng Cymraeg yn yr ardaloedd mwyaf poblog, sef Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman.

Dylid hefyd, meddai'r adroddiad, ddysgu o brofiadau Gwynedd a Cheredigion wrth helpu disgyblion di-Gymraeg sy'n symud i fyw yn y sir.

Dywedodd yr adroddiad y dylai'r cyngor wneud mwy i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg o fewn y weinyddiaeth "gyda'r nod o weinyddu'n bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg gydag amser".

Mae yna hefyd alwad ar i'r iaith fod yn ystyriaeth o bwys wrth gynllunio'r economi ac wrth roi caniatâd cynllunio i godi tai newydd.

Fe fydd yr adroddiad yn mynd gerbron Bwrdd Gweithredol Cyngor Caerfryddin ddydd Llun.

Dywedodd cadeirydd y gweithgor, y Cynghorydd Cefin Campbell, fod yr adroddiad yn gyfle i'r cyngor "greu hanes."

"Mae'r iaith Gymraeg wedi bod yn rhan annatod o fywyd cymunedau Sir Gâr ers canrifoedd ond y tristwch yw ei bod hi bellach yn diflannu'n araf fel tywod mân rhwng ein bysedd.

'Ar frys'

"Mae angen felly i ni weithredu ar frys i atal y dirywiad a bod yn ddigon dewr i roi mesurau yn eu lle i sicrhau bod y gwaddol diwylliannol unigryw hwn yn cael ei drosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol.

"Gwyddom fel gweithgor fod yr her yn enfawr, ond mae'r wobr pe llwyddir, yn fawr."

Bu'r gweithgor yn canolbwyntio ar wyth maes penodol:

  • Cynllunio;
  • Addsyg;
  • Economi;
  • Gweithleoedd cyfrwng Cymraeg a gweinyddiaeth y cyngor;
  • Mentrau iaith;
  • Cyfloedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gymuned;
  • Trosglwyddo'r iaith yn y teulu;
  • Marchnata'r iaith.