Carwyn Jones: 'angen hybu mentrau iaith'

  • 25 Mawrth 2014
Carwyn Jones
Dywedodd Carwyn Jones y byddai polisi iaith yn cael ei gyflwyno yn ddiweddarach eleni

Mae'r Prif Weinidog wedi dweud bod angen "codi statws a dylanwad" Mentrau Iaith Cymraeg fel rhan o gynllun i hybu'r iaith a nifer y siaradwyr yng Nghymru.

Wrth ymateb i ddau adroddiad annibynnol oedd yn edrych ar ffyrdd o gryfhau'r Gymraeg, dywedodd Carwyn Jones bod angen "annog cynllunio gwell ac agwedd mwy cydlynol tuag at hyrwyddo'r Gymraeg".

Roedd Mr Jones yn ymateb i adroddiad Adolygiad o Waith y Mentrau Iaith ac adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cymunedau Cymraeg.

Mae beirniaid wedi dweud bod datganiad y Prif Weinidog yn annigonol.

Croesawu

Croesawodd Mr Jones ganfyddiadau'r adroddiadau, gan ddweud y byddai'r canfyddiadau yn dod "yn rhan o ddatganiad polisi a fydd yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ran y Gymraeg dros y tair blynedd nesaf".

Ymhlith argymhellion yr adroddiad ar Fentrau Iaith oedd yr angen am well arweiniad i'r mentrau, a chyllid sefydlog tymor hir.

Dywedodd Mr Jones y byddai'r canfyddiadau yn cael eu hystyried fel rhan o bolisi newydd yn y dyfodol, ond y byddai'r gwaith o "fynd i'r afael â'r heriau a nodwyd yn yr adolygiadau yn cychwyn yn awr".

Ychwanegodd bod y llywodraeth yn parhau gyda'r gwaith o hybu defnydd yr iaith, ac y byddai'r adroddiadau yn helpu wrth fynd ati i wneud hynny.

'Offerynnau pwerus a gwerthfawr'

Dywedodd: "Gwyddwn fod cyrff fel y Mentrau Iaith yn offerynnau pwerus a gwerthfawr o ran hyrwyddo'r Gymraeg ac rydym am sicrhau bod hyn yn parhau yn y dyfodol, tra'n cryfhau'r effaith a'r dylanwad maen nhw'n ei gael.

"Byddwn hefyd yn edrych ar faterion pwysig a nodwyd gan adroddiad y Grŵp Cymunedau Cymraeg, sy'n canolbwyntio ar addysg a'r economi - ffactorau allweddol wrth hyrwyddo'r iaith.

"Mae'n rhaid inni wneud yn siŵr ein bod yn adfywio'r cymunedau gwledig hyn, a'u gwneud yn ganolfannau cymdeithasol ac economaidd, gyda chyfleoedd deniadol sy'n annog pobl ifanc i aros yn yr ardal."

Ychwanegodd y byddai polisi yn cael ei gyflwyno yn ddiweddarach yn y gwanwyn, gan "dynnu ynghyd ganfyddiadau'r holl adolygiadau a gynhaliwyd yn ddiweddar yn ogystal â'r Gynhadledd Fawr".

'Annigonol a tila'

Yn ymateb, dywedodd AC Plaid Cymru, Simon Thomas bod ymateb y llywodraeth yn "annigonol a tila", ac nad oeddent wedi ymateb i unrhyw argymhellion eto.

"Mae peryg mai mwy o siarad gwag fydd yn codi o'r holl adroddiadau ar y Gymraeg os yw'r llywodraeth o'r farn ei fod yn gwneud y rhan fwyaf o'r hyn sydd wedi ei argymell yn barod," meddai.

"Er bod canllawiau cynllunio newydd wedi ei gyhoeddi, nid yw'r llywodraeth wedi darparu arweiniad clir ar Asesu Effaith Ieithyddol.

"Mae'r llywodraeth eto yn dangos diffyg arweiniad trwy ddweud mai mater ar gyfer awdurdodau lleol yw gwella darpariaeth o addysg Cymraeg.

"Rydym yn dal i aros am fanylion ei gynlluniau i ddatblygu Bangor, Aberystwyth a Caerfyrddin ond mae peryg bydd llawer gwannach nag argymhelliad y Grŵp."

'Ffars llwyr'

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw'r datganiad yn "ffars llwyr".

Dywedodd Robin Farrar bod ymateb y llywodraeth yn anwybyddu argymhellion pwysig, ac nad oedd addewid o unrhyw adnoddau ychwanegol i fentrau iaith.

"Mae ymateb Llywodraeth Cymru i sefyllfa gymunedol y Gymraeg yn ffars llwyr," meddai.

"Maen nhw'n dal i oedi a gwrthod newidiadau pwysig. Maen nhw wedi dewis anwybyddu neu wrthod yr argymhellion fyddai'n gwneud gwir wahaniaeth - ni fydd mân newidiadau i drefniant gweinyddol y mentrau iaith yn sicrhau twf i'r Gymraeg ar lawr gwlad.

"Mae Carwyn Jones yn dal i oedi, yn dal i anwybyddu'r newidiadau sylfaenol sydd eu hangen - mae'n hen bryd iddo ddechrau cymryd y Gymraeg o ddifrif."