Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Ergyd i ymgyrch am brawf imiwnedd

24 Mawrth 2014 Diweddarwyd 21:56 GMT

Daeth ergyd i ymgyrch mam o Sir Gaerfyrddin sy'n galw am brofi imiwnedd merched beichiog i glefyd cyffredin a laddodd ei babi yn y groth.

Mae Dwynwen Davies o Bencarreg, a gafodd ei heintio gyda chlefyd y foch goch tra'n disgwyl efeilliaid y llynedd, yn mynnu bod angen codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr.

Ond yn ôl Llywodraeth Cymru dyw hi ddim yn ymarferol i brofi am y clefyd gan nad oes triniaeth na brechiad ar gael.

Aled Scourfield aeth i siarad gyda Dwynwen Davies ar ran Newyddion 9.