'Alban annibynnol yn dda i Gymru'

  • 24 Mawrth 2014
Sturgeon
Image caption Mae Ms Sturgeon wedi bod yn Ddirprwy Brif Weinidog ers 2007

Mi fyddai Cymru'n elwa pe bai'r Alban yn pleidleisio o blaid annibyniaeth, yn ôl Dirprwy Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon.

Mewn araith i Ganolfan Llywodraethu Cymru ym Mae Caerdydd fore Llun, dywedodd y byddai Cymru mewn sefyllfa i ddadlau am fwy o arian gan San Steffan pe bai'r Alban yn gadael y Deyrnas Unedig.

Fe honnodd y byddai pleidlais gadanrhaol o fudd i Gymru am y byddai'n symud balans y pŵer i ffwrdd o Lundain.

Blwyddyn i heddiw y byddai'r Alban yn dod yn wlad annibynnol os yw'r boblogaeth yn cefnogi hynny.

Dywedodd nad oedd am i'r Alban fod mewn cystadleuaeth gyda Cymru wrth lobïo Llywodraeth y DU am fwy o arian - rhywbeth na fyddai'n digwydd petai'r Alban yn dod yn annibynnol.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru'n derbyn grant blynyddol sy'n cael ei gyfrifo drwy ddefnyddio system a elwir yn fformiwla Barnett.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud droeon bod Cymru'n cael ei than-gyllido gan nad yw'r fformiwla'n cymryd angen i ystyriaeth.

Yn 2009 fe ddywedodd y Comisiwn Holtham bod Cymru'n cael £300 miliwn yn llai nag oedd hi angen bob blwyddyn - a dywedodd cadeirydd y comisiwn Gerry Holtham y byddai diwygio'r fformiwla'n arwain at lai o arian i'r Alban.

'Trefniadau cyllido tecach'

Ar raglen 'Sunday Politics' y BBC ddydd Sul dywedodd: "Dydw i ddim yn derbyn bod yr Alban yn cael ei thrin yn ofnadwy o hael drwy fformiwla Barnett.

"Un o'r pryderon sydd ganddon ni yn yr Alban yw petai'r bleidlais yn negyddol, mi fyddai diwygio'r fformiwla'n arwain at doriadau sylweddol i gyllideb yr Alban ac mae hynny'n rhywbeth fyddai o bryder anferth i'r Alban.

"Rydw i'n deall yn llwyr bod Cymru a Llywodraeth Cymru eisiau dadlau dros eu buddiannau ond, wrth gwrs, os yw'r Alban yn pleidleisio o blaid annibyniaeth mi fyddwn ni'n dod yn annibynnol yn ariannol hefyd, gan godi ein trethi ein hunain a phenderfynu sut i'w gwario.

"Yn amlwg, rwy'n credu y byddai hynny o fudd i'r Alban ac, wrth gwrs, byddai'n arwain at sefyllfa lle gallai Cymru ddadlau dros beth maen nhw'n weld fel trefniadau cyllido tecach gyda Llywodraeth San Steffan."

'Dim dadlau'

Ychwanegodd Ms Sturgeon: "Mae'n rhaid i Gymru wneud ei hachos ar beth mae'n ystyried i fod yn gyllido tecach.

"Byddwn yn dadlau'n gryf nad ydw i'n derbyn y rhagdybiaeth fod yr Alban yn cael ei thrin yn anghymesur o hael drwy fformiwla Barnett.

"Yn sicr, nid fel 'na mae pethau wedi bod yn teimlo yn nhermau'r toriadau dros y blynyddoedd diwethaf.

"Mi fyddwn ni yn dadlau yn erbyn unrhyw newid i fformiwla Barnett fyddai'n arwain at doriad yng nghyllideb yr Alban - yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth y byddai rhaid i ni ddadlau'n gryf yn ei gylch gyda llywodraeth San Steffan.

"Wrth gwrs, mae'n gwbl iawn bod Llywodraeth Cymru yn dadlau gyda San Steffan eu bod angen ffordd fwy teg o dderbyn arian, ond dydw i ddim yn credu y dylai hynny fod ar draul yr Alban.

"Rydw i'n credu mai'r ateb gorau i hyn yw i'r Alban fod yn annibynnol. Fyddai dim dadlau am gyllideb yr Alban wedyn gan y byddwn ni'n codi ein trethi ein hunain ac yn gyfrifol am ein penderfyniadau gwario ein hunain."