Everton 3 - 2 Abertawe

Everton Abertawe
Image caption Daeth Vorm yn agos i arbed cic o'r smotyn Ross Barkley

Fe ddaeth y gŵr adawodd Abertawe yn ôl i ddysgu gwers iddyn nhw yn Goodison Park, wrth i Roberto Martinez ysbrydoli Everton i fuddugoliaeth yn erbyn Abertawe.

Fydd Gary Monk ddim yn hapus gyda Chico Flores am y gôl gyntaf. Fe roddodd y Sbaenwr gic smotyn i ffwrdd am yr ail dro o fewn mis.

Lwyddodd Leighton Baines i gynnal ei record 100% o'r smotyn, er bod Michel Vorm wedi neidio'r ffordd gywir.

Fe wnaeth yr Elyrch yn dda i godi eu pennau ar ôl hynny, ac fe roedd eu gôl yn enghraifft o waith tîm ar ei orau.

Tarodd Wayne Routledge bas hir dros y cae i Ángel Rangel, wnaeth redeg heibio Aiden McGeady cyn pasio i Wilfried Bony i'w gwneud hi'n 1-1.

Gallai Abertawe fod wedi sgorio eto'n fuan wedyn ond aeth cic rydd Pablo Hernández fodfeddi tu hwnt i'r postyn, ac fe aeth y timau fewn ar yr egwyl yn gyfartal.

Rhediad gwael yn parhau

Fe arbedodd Vorm yn dda ddwywaith yn fuan yn yr ail hanner, ond roedd Everton rhy gryf iddo wedi hynny.

Cyd-chwarae da rhwng Lukaku a Mirallas wnaeth hi'n 2-1, ac fe weithiodd y ddau yn dda gyda'i gilydd eto ar gyfer gol Barkley.

Ceisiodd Abertawe eu gorau glas i ddod yn ôl, ac roedd rhaid i Tim Howard fod ar ei orau i arbed ymdrech Bony.

Fe gafodd Ashley Williams gôl yn fuan wedyn, ond roedd hi rhy hwyr a dyw Abertawe nawr heb ennill ers wyth gêm.