Caerdydd 3 - 6 Lerpwl

Luis Suarez
Roedd Luis Suarez ar dân yn erbyn Caerdydd a bydd yn gorfoleddu heno

Mae Caerdydd wedi colli yn erbyn Lerpwl mewn gêm oedd yn wledd o goliau yn y brifddinas.

Yr Adar Gleision sgoriodd gyntaf wedi dim ond naw munud, diolch i Jordan Mutch, wedi i Joe Allen golli'r bêl ger yr ystlys.

Daeth y bêl i Mutch, oedd yn sefyll ar linell y blwch cosb, a doedd gan Mignolet ddim siawns o atal ei ergyd bwerus.

Wnaeth mantais Caerdydd ddim para rhyw lawer, a seren Lerpwl Luis Suarez wnaeth yn siŵr o hynny gan daro'r bêl i fewn yn dilyn croesiad Glen Johnson.

Lai na deng munud yn ddiweddarach ac roedd Caerdydd nôl ar y blaen - Fraizer Campbell yn cymryd mantais o farcio llac Lerpwl gan dorri drwodd a tharo cefn y rhwyd gydag ergyd galed o'i droed chwith.

Arhosodd pethau'n weddol gall am gyfnod wedyn, ond doedd gan Lerpwl yn amlwg ddim unrhyw fwriad o fynd mewn i'r egwyl ar ei hôl hi.

Llwyddodd y tîm cartref ddim i ddelio'n dda gyda chic gornel Coutinho ac fe ddarganfyddodd ail groesiad y gŵr o Frasil Martin Skrtel, wnaeth ddim camgymeriad. 2-2.

Ail hanner gwallgof

Skrtel sgoriodd y gôl gyntaf, o nifer, yn yr ail hanner hefyd. Roedd gan Gaerdydd ddau chwaraewr oddi ar y cae yn derbyn triniaeth pan ddarganfu cic gornel ben moel y gŵr o Slofacia.

Mae gwaith tîm Sturridge a Suarez wedi derbyn llawer o glod y tymor hwn, ac roedd eu cydweithio ar gyfer pedwerydd gol Lerpwl yn edrych fel bod ganddyn nhw ddealltwriaeth delepathig.

Tarrodd Glen Johnson y bêl o'r ystlys ac fe lwyddodd Sturridge rhywsut i ddarganfod Suarez gyda chefn ei sawdl. Doedd Suarez ddim yn debygol o fethu, ac roedd hi'n 2-4.

Fe gyfnewidiodd y ddau eu rôl ar gyfer y gôl nesaf. Y gŵr bach o Dde America yn darganfod Sturridge yn y cwrt cosbi ac roedd hi'n 2-5.

Ddau funud cyn y diwedd, fe roddodd Mutch lygedyn o obaith i Gaerdydd. Roedd Lerpwl wedi penderfynu nad oedd angen marcio ddim mwy a cheisiodd Mutch eu profi'n anghywir.

Lerpwl oedd yn iawn fodd bynnag, ac fe wnaeth Suarez yn siwr o hynny wrth sgorio ei drydedd o'r gêm yn yr amser oedd wedi ei ganiatáu am anafiadau.

Hon oedd trydydd hat-tric Suarez y tymor hwn, ac mae o bellach wedi sgorio mwy o goliau na phawb o Gaerdydd gyda'i gilydd.

Mae pethau'n parhau i edrych yn ddu i'r Adar Gleision - maen nhw dri phwynt i ffwrdd o safle diogel ac wedi chwarae gem yn fwy na Crystal Palace, sydd yn yr 17eg safle.