Alun Ffred yn lle Elis-Thomas

Dafydd Elis-Thomas
Roedd wedi dweud bod sylwadau Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood am UKIP yn "arwynebol".

Mae Aelodau Cynulliad wedi pleidleisio o blaid cynnig i ethol Alun Ffred Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd yn lle Dafydd Elis-Thomas.

Roedd 52 o blaid y cynnig a chwech yn ymatal.

Cafodd Elis-Thomas ei ddiswyddo fel llefarydd trafnidaeth Plaid Cymru ac fel Cadeirydd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad.

Roedd wedi dweud bod sylwadau Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood am UKIP yn "arwynebol".

Yng nghynhadledd y blaid roedd hi wedi dweud bod pleidlais i UKIP yn bleidlais yn erbyn Cymru.

Rhun ap Iorwerth, Aelod Cynulliad Ynys Môn, yw llefarydd y blaid ar drafnidiaeth.