Caergybi a'r Rhyfel Mawr

Edwin Hughes a Peter Roberts
Image caption Edwin Hughes a Peter Roberts gyda rhifynnau hen a newydd y llyfr

Mi fydd Amgueddfa Arforol Caergybi yn ail-argraffu llyfr sy'n disgrifio bywyd yn y dref adeg y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cafodd Holyhead and the Great War ei ysgrifennu gan newyddiadurwr lleol R E Roberts yn 1920.

Ymunodd cannoedd o drigolion Caergybi gyda'r lluoedd arfog yn ystod y Rhyfel Mawr.

Cymerodd y llynges berchnogaeth ar nifer o longau a oedd yn hwylio yn rheolaidd rhwng Caergybi, Dulyn a Dun Laoghaire, a'u defnyddio fel llongau rhyfel neu i gludo milwyr oedd wedi eu hanafu,

Roedd nifer o drigolion Caergybi yn aelodau o griwiau'r llongau a bu'n rhaid i'r dref ymdopi â nifer o drychinebau dros y blynyddoedd gan i rai o'r llongau suddo.

Ddwy flynedd wedi diwedd y rhyfel, cyhoeddodd Robert E Roberts, a oedd yn ohebydd papur newydd yr Holyhead and Anglesey Mail, ei lyfr Holyhead and the Great War.

Cafodd y llyfr ei argraffu gan J R Edwards a'i fab o Dŷ Castell yng Nghaergybi.

Image caption Y Leinster, llong Post Brenhinol a suddodd ar y ffordd i Gaergybi o Iwerddon yn mis Hydref 1918. Bu farw dros 500 o bobl.

Mae nifer o'r copïau sy'n dal i fodoli bellach yn disgyn yn ddarnau, ac er mwyn nodi can mlynedd ers dechrau'r rhyfel, penderfynodd gwirfoddolwyr yr amgueddfa ail-argraffu'r gyfrol er mwyn i genhedlaeth newydd ddysgu am yr hanes.

Bu farw RE Roberts yn 1939, ac oherwydd bod hawlfraint cyhoeddi yn dod i ben ar ôl 70 mlynedd, mae modd ail-argraffu'r llyfr nawr.

Yn ôl gwirfoddolwyr yr amgueddfa, mae'r llyfr o werth i haneswyr sy'n ymchwilio i hanes y rhyfel yng Nghymru.

Edwin Hughes a Peter Roberts sydd wedi bod yn llywio'r prosiect.

Esboniodd Peter: "Cefais gopi o'r llyfryn rai blynyddoedd yn ôl ac mae'n gofnod ffeithiol o hanes y dref [Caergybi] drwy'r rhyfel.

"Nid yn unig am y rhai a gollodd eu bywydau, ond hefyd bywyd yn gyffredinol yn y dref, y newidiadau a welwyd yma drwy'r blynyddoedd.

"Mae yna restr o'r holl bobl a ymunodd â'r lluoedd arfog, rhestr o'r medalau a roddwyd i rai ohonyn nhw, yn ogystal â manylion y rhai a gafodd eu canmol mewn adroddiadau swyddogol, a disgrifiad manwl o'r hyn wnaethon nhw.

"Mae yna restr o'r rhai fu farw yn ogystal â rhybuddion gan longau am longau tanddwr yr Almaenwyr y Môr Iwerddon. Mae cymaint ohonyn nhw, y syndod yw na suddwyd fwy o longau."

Ychwanegodd: "Mae yna benodau ar beth oedd yn mynd ymlaen yn y dref megis disgrifio sefydlu ysbytai yn y dref, chwilio am wirfoddolwyr i'r Groes Goch a hyd yn oed beth oedd y sgowtiaid yn ei wneud.

"Rydym yn gweld y llyfr fel rhan bwysig o'n hetifeddiaeth sydd wedi cael ei gadael i ni gan ohebydd lleol. Mae yna hanesion tebyg wedi cael eu hysgrifennu mewn trefi eraill ond maen nhw'n canolbwyntio lot mwy ar y rhai fu farw. Mae hwn yn canolbwyntio ar y ffeithiau.

"Roedd RE Roberts yn ddyn amlwg ym mywyd y dref, roedd hyd yn oed yn rhan o'r pwyllgor i adeiladu cofeb i'r rhai fu farw yn y rhyfel."

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.