Y bocsiwr Fred Evans wedi ei gyhuddo o ymosod

Fred Evans with his silver medal
Mi ennillodd Fred Evans y fedal arian yn y gemau Olympaidd yn 2012

Mae'r bocsiwr Fred Evans wedi cael ei arestio a'i gyhuddo o ymosod ym Mirmingham.

Yn ol heddlu gorllewin canolbarth Lloegr mi gafodd dyn 23 oed o ardal Llaneirwg yng Nghaerdydd ei arestio Chwefror 23.

Cafodd ei gyhuddo ar yr un diwrnod ac fe gafodd fechniaeth i ymddangos o flaen llys ynadon Birmingham ar gyfer y gwrandawiad cychwynnol.

Mi ennillodd Fred Evans fedal arian yn y gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012. Fo oedd y Cymro Cyntaf i wneud hyn ar gyfer y gamp ers 1972.