Cymru, Lloegr a Llanrwst

Go brin fod San Steffan erioed wedi cymeradwyo mesur a theitl mwy rhyfedd na "Deddf Cymru a Berwick". Cyrhaeddodd honno'r llyfr statud yn 1745 a'i bwriad oedd gwneud hi'n eglur bod cyfeiriadau at Loegr mewn deddfwriaeth hefyd yn cyfeirio at Gymru a Berwick on Tweed - tref oedd wedi newid dwylo'n gyson rhwng Lloegr a'r Alban.

Am ryw reswm neu'i gilydd, mae'r mesur hefyd yn cynnwys cymylau'n ymwneud â'r dreth ar ffenestri a hawliau Crynwyr ond dyma'r cymal perthnasol i Gymru.

"In all Cases where the Kingdom of England, or that Part of Great Britain called England, hath been or shall be mentioned in any Act of Parliament, the same has been and shall from henceforth be deemed and taken to comprehend and include the Dominion of Wales and Town of Berwick upon Tweed".

Dyw Deddf Cymru a Berwick ddim yn ddibwys. Mae modd dadlau mae hon oedd y foment y cafodd Cymru ei thraflyncu gan Loegr. Deddf dacluso oedd hi yn hytrach na mesur pellgyrhaeddol ond os buodd 'na gyfnod lle ddiflannodd y syniad o Gymru o'r ymgom wleidyddol y ddeddf hon oedd ei ddechrau.

Nid dyna'r rheswm am godi'r ddeddf yn fan hyn. Eisiau gwneud y pwynt ydw i bod y berthynas gyfansoddiadol rhwng Cymru a Lloegr wastad wedi bod yn amwys ac aneglur.

O gofio bod 'na ganrifoedd o ryfela wedi bod ynghylch hawliau Coron Lloegr dros Gymru efallai nad yw hi'n syndod bod y ddadl honno'n parhau hyd heddiw er mai yn y llysoedd barn yn hytrach nac yng Nghilmeri a Bryn Glas y mae'n cael ei hymladd heddiw.

Mae parodrwydd llywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd i gyfraith ynghylch hawliau'r Cynulliad hyd yn oed mewn meysydd digon ymylol a phitw yn drawiadol. Efallai eich bod yn cofio'r i'r Twrne Cyffredinol ac Ysgrifennydd Cymru fynd i gyfraith ynghylch hawl gwleidyddion y Bae i newid cyfundrefn is-ddeddfwriaeth llywodraeth leol. Mae'n rhaid bod ganddyn nhw bwynt cyfansoddiadol o dragwyddol bwys i wneud. Beth bynnag oedd hwnnw fe'i gwrthodwyd yn unfrydol gan y Goruchaf Lys.

Mae'n werth dyfynnu beth ddywedodd Cwnsler Cyffredinol Cymru, Theo Huckle, am hynny ar y pryd.

"It took five Supreme Court Justices... several of the UK's leading constitutional lawyers and a great many officials across three Governments to decide it was lawful to make minor changes to the way Welsh local councils deal with things like dog-fouling and loitering in public lavatories"

Mae 'na enghreifftiau eraill o frwydrau cyfreithiol dros hawliau deddfu'r Cynulliad. Ai ddim ar eu hôl nhw nawr ond mae Theo Huckle ac eraill yn gwneud pwynt dilys wrth nodi nad yw Senedd yr Alban na Chynulliad Gogledd Iwerddon wedi wynebu heriau tebyg. Yr ateb i'r broblem, meddir, yw diffinio'r meysydd lle nad oes gan aelodau'r Cynulliad yr hawl i ddeddfu yn hytrach na'r rheiny lle mae ganddynt yr hawl i wneud. Ydyn, mi ydyn ni yn ôl ar dir y "reserved powers model" - sylfaen datganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Na phoener! Dydw i ddim am ymhelaethu ynghylch y fodel honno eto! Y cwestiwn sy gen i yw hwn. Oes 'na rywbeth ar wahân i ddryswch cyfreithiol yn mynd ymlaen yn fan hyn? A ydy ysbryd Deddf Cymru a Berwick yn fyw yng nghalonnau rhai o wleidyddion San Steffan? Hynny yw, oes 'na rai ohonynt yn teimlo, yn reddfol bron, bod deddfwriaeth Gymreig rhywsut yn groes i'r drefn ordeiniedig?

Fe ddywedodd rhywun rhywdro mai Ysgrifennydd Cymru, David Jones yw'r unig ddyn ar y ddaear gron sy'n teimlo'n wladgarol tuag Gymru a Loegr fel un uned. Rwy'n credu bod hynny'n annheg ac anghywir. Mae 'na fwy nac un sy'n teimlo felly!