Cymru: Chwe newid i herio'r Alban

Gethin Jenkins
Fe fydd Gethin Jenkins yn ennill ei 105ed cap.

Mae rheolwr Cymru, Warren Gatland wedi cyhoeddi pwy sydd yn y tîm i herio'r Alban yng ngêm ola' Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.

Bydd Liam Williams a Mike Phillips yn ymuno â'r XV yn lle Leigh Halfpenny a Rhys Webb, gafodd eu hanafu yn ystod y gêm yn erbyn Lloegr ddydd Sul.

Am y tro cyntaf yn y bencampwriaeth eleni, bydd Dan Biggar yn dechrau'r gêm.

Fe fydd Gethin Jenkins yn cael ei 105ed cap ddydd Sadwrn sy'n golygu mai fo fydd wedi chwarae'r nifer uchaf o gemau i Gymru, gan gymryd lle Stephen Jones.

Fe fydd Ken Owens a Rhodri Jones yn dechrau'r gêm, hefyd.

Daw Luke Charteris yn ôl i'r ail reng wedi i anaf ei rwystro rhag chwarae yn erbyn Lloegr, a does dim newid i'r rheng-ôl.

Fe fydd deuawd y Gweilch, Richard Hibbard ac Adam Jones ar y fainc gyda Paul James, Jake Ball, Justin Tipuric, Rhodri Williams, Rhys Priestland a James Hook.

Meddai Warren Gatland: "Mae dydd Sadwrn yn gyfle i ni roi perfformiad er mwyn gorffen y bencampwriaeth ar uchafbwynt.

"'Ry' ni wedi gwneud nifer o newidiadau er mwyn ailwampio pethau gyda dim ond chwe diwrnod rhwng y ddwy gêm.

"Fe fydd yr Alban eisiau chwarae tipyn o rygbi. Fe gawson nhw fuddugoliaeth dda yn erbyn yr Eidal ac fe roedden nhw'n anlwcus i golli yn erbyn Ffrainc.

"Fe fyddwn ni'n edrych am ragor o gywirdeb er mwyn gorffen gyda buddugoliaeth gartref yng Nghaerdydd."

TÎM CYMRU I WYNEBU'R ALBAN

Liam Williams (Scarlets), Alex Cuthbert (Gleision Caerdydd), Jonathan Davies (Scarlets), Jamie Roberts (Racing Metro), George North (Northampton), Dan Biggar (Gweilch), Mike Phillips (Racing Metro), Gethin Jenkins (Gleision Caerdydd), Ken Owens (Scarlets), Rhodri Jones (Scarlets), Luke Charteris (Perpignan), Alun Wyn Jones (Gweilch), Dan Lydiate (Racing Metro), Sam Warburton (CAPT - Gleision Caerdydd), Taulupe Faletau (Dreigiau Casnewydd Gwent). Eilyddion: Richard Hibbard (Gweilch), Paul James (Caerfaddon), Adam Jones (Gweilch), Jake Ball (Scarlets), Justin Tipuric (Gweilch), Rhodri Williams (Scarlets), Rhys Priestland (Scarlets), James Hook (Perpignan)