Dyn wedi marw ar fynydd yn Eryri

Bu farw dyn brynhawn Sul wedi iddo gwympo 100 o droedfeddi ar fynydd yn Eryri.

Roedd y ddamwain ar Ben yr Helgi Du yn y Carneddau a'r dyn, yn brofiadaol ac yn ei chwedegau, o dde Lloegr.

Ceisiodd ei ffrindiau roi cymorth cynta' iddo cyn i hofrennydd yr Awyrlu o'r Fali gael ei alw.

Hefyd cafodd Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen eu galw.

Aed ag e i Ysbyty Gwynedd, Bangor.