Gwrthdrawiad: Gyrrwr beic modur wedi'i ladd

  • 9 Mawrth 2014
Heddlu
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A5104 yn Bryneglwys ger Corwen.

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw'r dyn gafodd ei ladd mewn gwrthdrawiad rhwng beic modur a char ger Corwen bnawn Sadwrn.

Roedd Andrew Anderton yn 53 oed ac yn dod o Abergele.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A5104 yn Bryneglwys ger Corwen.

Fe gafodd yr heddlu eu galw toc cyn 2.00 y pnawn.

Mi gyrhaeddodd yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans y safle ond roedd gyrrwr y beic modur wedi marw.

Mi gafodd gyrrwr y car a theithiwr eu hanfon i Ysbyty Maelor Wrecsam gyda mân anafiadau.

Dyweddodd Prif Arolygydd heddlu Gogledd Cymru, Darren Wareing, bod "ymchwiliadau ar droed ac rydym yn apelio ar unrhywun oedd yn teithio ar hyd yr A5104 cyn y gwrthdrawiad neu sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â swyddogion drwy ffonio 101."