Cynghorau: cwestiwn ac ateb

  • 10 Mawrth 2014
Toriadau

Mae'n debyg nad yw cynghorau wedi torri ar y raddfa hon o'r blaen.

Beth yw'r rheswm am hynny? Golygydd Materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick, sy'n ceisio taflu goleuni ar y mater.

Vaughan Roderick

Sut mae'r sefyllfa yn wahanol y flwyddyn hon?

"Yn y gorffennol roedd 'na sgript roeddwn i'n ei defnyddio bob blwyddyn wrth gyhoeddi'r setliad, a'r un stori bob blwyddyn oedd hi gyda'r Swyddfa Gymreig yn mynnu bod y setliad yn un anodd ond teg gyda'r cynghorau yn rhybuddio y byddai gwasanaethau'n cael eu torri'n ddifrifol.

"Yr un sgript pob blwyddyn; ond mae eleni yn wahanol. Nid sôn ydyn ni am doriadau o'i gymharu â chwyddiant fel yr oedd yn digwydd o'r blaen - dyna oedd yn digwydd yn y gorffennol, bod cynnydd yn y cymhorthdal ddim yn cadw lan â chwyddiant.

"Mae'r rhain yn doriadau go iawn, yn doriadau sydd ddim yn gadael llawer o ddewisiadau i'r cynghorau."

Pam mae'r toriadau yma'n digwydd nawr?

"Y broblem sydd 'da'r cynghorau yw bod Llywodraeth Cymru wedi eu diogelu nhw, i raddau, rhag y toriadau sydd wedi bod yn digwydd yn Lloegr. Gobaith y llywodraeth oedd y byddai'r cynghorau'n defnyddio'r amser yna i ddarganfod ffyrdd clyfar i wneud arbedion drwy wneud pethau fel mwy o gyd-weithio, rhannu swyddogion adrannau rhwng mwy nag un cyngor a chydweithio gydag asiantaethau eraill.

"Beth mae'r llywodraeth yn ei ddweud yn y bôn, yn ôl rhai ffynhonellau, yw bod cynghorau ddim wedi gwneud digon o hynny ac yn lle'r toriadau clyfar maen nhw nawr yn gorfod gwneud toriadau fydd yn effeithio ar wasanaethau."

Pam bod yr un gwasanaethau yn cael eu torri gan bob cyngor?

"Wrth edrych ar gyllidebau'r cynghorau eu hunain y broblem sydd 'da nhw yw ei bod hi'n anodd iawn gweld lle gallan nhw arbed arian gan fod llawer ohono wedi ei glustnodi ar gyfer rhywbeth penodol neu ei fod e'n wariant ar wasanaethau statudol.

"Mae oddeutu tri chwarter y gwariant yn anodd iawn i arbed, ddim yn amhosibl ond yn anodd iawn. Ym maes addysg, er enghraifft, mae'n anodd iawn oherwydd bod rheoliadau llym ynghylch ratio athrawon a disgyblion.

"Mae'r cynghorau'n gorfod edrych wedyn ar wasanaethau sydd naill ai ddim yn statudol o gwbl, neu ar wasanaethau sydd wedi bod yn cael eu darparu i raddfa fwy nag oedd ei angen yn statudol. Pethau felly yw canolfannau hamdden, llyfrgelloedd, grantiau i bethau fel grwpiau celfyddydol ac elusennol. Felly mae'r toriadau'n gorfod syrthio mewn rhai mannau penodol. Mae'n anorfod."

Ond y cwestiwn hanfodol yw: pa effaith gaiff hyn arnaf i?

"Wel, mae'n dibynnu pwy wyt ti. Os mai'r unig gysylltiad sydd 'da ti â'r cyngor yw plant mewn ysgol a chael gwagio dy fins, mae'n bosib na weli di lawer o wahaniaeth.

"Ond os wyt ti'n hŷn, ac yn defnyddio bws sy'n cael ei sybsideiddio i fynd i'r llyfrgell, yna fe allet ti ffeindio bod y bws a'r llyfrgell wedi diflannu. Mae'n dibynnu'n llwyr ar ba wasanaethau mae unigolyn yn eu defnyddio, ac yn yr ystyr yna, mae yna elfen o hap a damwain ynglŷn ag effaith y toriadau."

A fydd cynghorau'n gorfod talu pris am fethu â chynllunio ar gyfer gostyngiad eu cyllidebau?

"Mae'n bosib dadlau bod methiant y cynghorau i arbed arian drwy gydweithio yn golygu fod pwysau wedi cynyddu i leihau nifer y cynghorau. Ond, wrth gwrs, mae hynny'n mynd i ddigwydd yn rhy hwyr i osgoi'r arbedion sy'n gorfod cael eu cyflwyno eleni.

"Hefyd mae costau ynghlwm wrth ad-drefnu a dim ond yn y tymor hir y daw'r arbedion. Mae llawer yn awgrymu mai'r amser i uno cynghorau oedd pan roedd digon o arian ar gael gan fod cyflwyno newid yn ystod cyfnod o gynilo yn arbennig o anodd."