Cynghorau angen bod yn dryloyw, medd y Gweinidog

  • 9 Mawrth 2014
Lesley Griffiths
Image caption Mae Lesley Griffiths yn dweud bod y cynghorau wedi ymgynghori gyda'r cyhoedd cyn cyflwyno'r toriadau

Mae angen i gynghorau Cymru ddangos sut maen nhw'n penderfynu rhoi taliadau mawr i'w swyddogion, yn ôl y Gweinidog Llywodraeth Leol.

Mae Lesley Griffiths wedi dweud wrth raglen 'Sunday Politics' BBC Cymru y dylai'r cyhoedd gymryd diddordeb yng ngyflogau penaethiaid y cynghorau ac y dylai'r wybodaeth yna fod ar gael yn hawdd iddyn nhw.

Mis nesaf, bydd arweiniad ynglŷn â gosod cyflogau yn cael ei gyhoeddi ar gyfer y 22 cyngor.

Dangosodd adroddiad diweddar gan Swyddfa Archwilio Cymru fod cyflogau prif weithredwyr yn amrywio o £105,000 i £195,000.

Y llynedd, penderfynwyd y gallai cyflogau uwch swyddogion gael eu cyfeirio at y Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Bydd y cyngor fydd yn cael ei rhoi ym mis Ebrill yn dweud y dylid cynnal pleidlais ar gyflogau o fwy na £100,000.

"Mae'n benderfyniad i'r awdurdod lleol i gael y datganiad polisi cyflogau. Mae'n hollol gywir bod y rheina gyda nhw a bod y cyhoedd yn medru eu gweld nhw a gweld sut mae penderfyniadau yn cael eu gwneud. Maen nhw'n gyflogwyr ymreolaethol, awdurdodau lleol. Nhw sydd yn gosod y cyflogau.

"Nhw sydd yn gosod eu polisi cyflogau ac mae'n iawn fod yn rhaid iddyn nhw wneud hynny.

"Ond o achos pryderon sydd wedi eu codi gyda fi... Dw i'n meddwl fod hi'n iawn bod cynghorau yn medru dangos sut mae'r penderfyniadau yma yn cael eu gwneud a bod y cyhoedd yn medru cael mynediad hawdd atyn nhw. Mae hynny yn bwysig iawn, bod y cyhoedd yn medru gweld y datganiadau polisi cyflogau yna yn hawdd iawn," meddai Lesley Griffiths.

Cynnydd treth cyngor

Mi wrthododd hi wneud sylw ynglŷn â'r arian gafodd eu rhoi i brif weithredwyr cyngor Sir Penfro a Chaerfyrddin. Mae'r heddlu yn ymchwilio i'r taliadau ar hyn o bryd.

Cafodd dau uwch swyddog yng Nghyngor Caerffili eu cyhuddo mis diwethaf yn dilyn ymchwiliad gan yr heddlu i godiadau cyflog. Mae'r prif weithredwr, Anthony O'Sullivan, a'i ddirprwy, Nigel Barnett, yn wynebu cyhuddiadau o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.

Mae galwadau'r gweinidog ar gynghorau i fod yn dryloyw yn dod wrth iddyn nhw baratoi i anfon biliau treth cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae cyllidebau cynghorau wedi eu torri. Un rheswm am hyn yw penderfyniad Llywodraeth Cymru i warchod buddsoddiad yn y gwasanaeth iechyd.

Ond mae'r Ceidwadwyr yng Nghymru yn beio'r llywodraeth am y codiad yn nhreth cyngor. Mae rhai cynghorau wedi codi'r dreth i'r uchafswm sef 5%. Dyma'r swm uchaf cyn bod gweinidogion yn bygwth rhoi cap ar y dreth.

Yn ôl y Torïaid, mae'n bosib cyferbynnu'r sefyllfa yng Nghymru efo'r Alban. Yno, mae'r dreth cyngor wedi rhewi ers sawl blwyddyn yn dilyn ffrae. Maen nhw hefyd yn gwneud cymhariaeth gyda rhai awdurdodau yn Lloegr.

Ond mae Mrs Griffiths yn mynnu bod biliau yng Nghymru yn parhau yn is na'r rhai yn Lloegr. Ychwanegodd hi: "Dw i yn cadw golwg ar y cyllidebau. Dw i ddim eisiau iddyn nhw fod yn afresymol a dw i'n gwybod eu bod nhw'n ystyried barn pobl sydd yn talu treth cyngor.

"Wrth iddyn nhw lunio eu cyllidebau, dw i'n credu eu bod nhw wedi gweithio'n agos gyda'r cyhoedd a hynny yn fwy na maen nhw wedi gwneud o'r blaen.

"Yr hyn dw i wedi dweud ydy os ydyn nhw yn afresymol, mi fyddai yn defnyddio fy mhwerau capio ac, ar y funud, dw i yn asesu yr holl gynnydd yn y dreth rydyn ni yn gweld."

Mae rhaglen Sunday Politics ar BBC 1 Cymru am 11.00 fore Sul ac, wythnos nesaf, mi fydd BBC Cymru yn edrych yn fwy manwl ar wasanaethau'r cyngor a'r dreth cyngor yn benodol.

Straeon perthnasol