Dadl Leanne yn 'arwynebol' medd Elis-Thomas

  • 8 Mawrth 2014
Dafydd Elis Thomas a Leanne Wood
Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas bod honiadau'r arweinydd, Leanne Wood, bod pleidlais i UKIP yn "bleidlais yn erbyn Cymru" yn "arwynebol"

Mae cyn arweinydd Plaid Cymru, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, wedi corddi'r dyfroedd yng nghynhadledd wanwyn y blaid trwy ymateb i'r honiad a wnaeth yr arweinydd presennol Leanne Wood fod pleidlais i UKIP "yn bleidlais yn erbyn Cymru".

Dywedodd yntau wrth y BBC ddydd Sadwrn: "Mae'n arwynebol ac mae'n tybio bod gennym ryw fath o ragoriaeth ein bod yn penderfynu pwy sy'n Gymry.

"Mae plaid sy'n cael pleidleisiau gan ddinasyddion cyffredin yng Nghymru yn un sy'n rhaid ei chymryd o ddifrif".

Ychwanegodd bod UKIP "yn amlwg yn cynrychioli safbwynt yng Nghymru."

Roedd Leanne Wood wedi herio UKIP yn ei haraith ddydd Gwener trwy ddweud bod pleidlais i UKIP "yn bleidlais yn erbyn Cymru. Ni allwn ac ni fyddwn yn gadael i'w gwleidyddiaeth hyll ein rhannu ni ym mis Mai", meddai.

Angen i'r Undeb Ewropeaidd fod yn 'fwy perthnasol'

Ym mhrif araith y gynhadledd ddydd Sadwrn, dywedodd aelod seneddol Ewrop Plaid Cymru, Jill Evans, bod angen gwneud yr Undeb Ewropeaidd "yn fwy perthnasol, mwy democrataidd a mwy llwyddiannus".

Dywedodd bod angen gweithredu'n radical i fynd i'r afael â newid hinsawdd.

Mae o'r farn bod gan Gymru "botensial enfawr" o ran ynni adnewyddol, a bod angen cydweithio o fewn yr Undeb Ewropeaidd a thu hwnt i ddatblygu'r potensial hwnnw.

Fe ddaeth Ms Evans yn drydydd yn yr etholiadau Ewropeaidd diwethaf yn 2009, y tu ôl i'r blaid Geidwadol a Llafur, gyda'r bedwaredd sedd yn mynd i Ukip.

Nod tymor hir y blaid yw cael Cymru annibynnol yn ymuno â'r UE fel aelod-wladwriaeth ar ei phen ei hun.

Ond am y tro, dywedodd Ms Evans ei bod yn benderfynol o "barhau i frwydro dros fuddiannau Cymru" ac i bwyso am ddiwygiadau i'r Undeb Ewropeaidd "er mwyn i bobl Cymru elwa'n llawn ar aelodaeth".

"Rhaid i Ewrop weithio i Gymru", meddai.

Mae 43% o allforion Cymru yn mynd i Ewrop ac mae cyfanswm yr allforion Cymreig hynny werth oddeutu £5 biliwn y flwyddyn.

Cymraeg yn iaith swyddogol yn yr UE

Derbyniodd Ms Evans gymeradwyaeth wresog pan alwodd i wneud y Gymraeg yn iaith swyddogol yn yr Undeb Ewropeaidd. Dywedodd y byddai hynny yn arwain at fuddiannau economaidd ac yn codi proffeil Cymru yn Ewrop.

Esboniodd bod "hyn yn benderfyniad i lywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Rwyf wedi lansio deiseb i ofyn iddo wneud yr hyn wnaeth Iwerddon yn 2007 a gofyn am gynnwys y Gymraeg fel un o ieithoedd y DG yn yr Undeb Ewropeaidd".

Ymhelaethodd, "Gallwn weld, o enghraifft Iwerddon, y math o gyfleoedd byddai hyn yn rhoi i'n pobl ifanc, ac i'r diwydiant cyfieithu, yn ogystal ag i ysgolion a cholegau a'r economi gyfan.

"Rydym yn genedl Ewropeaidd ddwyieithog a dylai ein dwy iaith swyddogol gael eu cydnabod yn gyfartal".

Ysgolion i ganolbwyntio ar ddysgu

Fore Sadwrn, dywedodd llefarydd y blaid ar addysg, Simon Thomas AC, y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn sefydlu tasglu i "dorri biwrocratiaeth a gadael i ysgolion llwyddiannus ganolbwyntio ar ddysgu".

Ei farn yw mai "gwastraff dawn ac ymroddiad" yw cael "athrawon rhagorol a phenaethiaid yn eistedd o flaen cyfrifiadur yn llenwi ffurflenni neu yn ticio bocsys".

Esboniodd y byddai'r llywodraeth yn gosod "deilliannau dysgu", ond yn caniatâu mwy o hyblygrwydd i ysgolion llwyddiannus, a llai o fonitro cyson wrth iddynt gyrraedd y deilliannau hynny.

Ymgeiswyr eraill Plaid Cymru ar gyfer etholiad Ewrop yw Marc Jones, Steven Cornelius ac Ioan Bellin.

Fe fydd etholiadau ar gyfer Senedd Ewrop yn cael eu cynnal ar Fai 22.