Pobl Fairbourne yn ystyried mynd i gyfraith

  • 8 Mawrth 2014
y Friog
Mae Fairbourne ym Meirionydd yn un o 50 o gymunedau sydd ar restr o ardaloedd fydd efallai'n cael eu colli i'r môr yn ystod y 50 mlynedd nesaf.

Mae pobl yn ardal Fairbourne yng Ngwynedd yn ystyried cais cyfreithiol yn erbyn y cynlluniau fyddai'n gweld bod eu pentref yn diflannu i'r môr yn y 50 mlynedd nesaf.

Mae'r ardal hon o Feirionydd yn un o nifer o leoliadau ar draws Cymru lle mae awdurdodau lleol yn dweud na fydd modd cyfiawnhau'r gost o gynnal amddiffynfeydd ac efallai y bydd yn rhaid derbyn y bydd rhai ardaloedd yn cael eu colli i'r môr

Mae nifer o gyfarfodydd cyhoeddus wedi cael eu cynnal yn ardal Fairbourne yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Mae trigolion yn poeni bod cynllun gan Gyngor Gwynedd i adael y pentref ddiflannu dan y don petai lefel y môr yn codi a'i bod hi'n amhosib ei hamddiffyn mwyach.

Yn Fairbourne, bydd yn rhaid cefnu ar 400 o dai erbyn 2055 fel rhan o'r polisi.

Mae grwp ymgyrchu wedi cael ei ffurfio ac mae'r trigolion eisoes wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog.

Yn ôl cadeirydd y grwp, Peter Cole, "Mae'r pentref mewn sioc. Mae difrifoldeb y sefyllfa wedi gwawrio arnom ni."

"Mae'r cynllun yn delio gyda'r dyfodol, ond y broblem ydi bod gwerthwyr tai yn dweud na fydd modd gwerthu ein heiddo rwan."

Mae nhw'n dweud nad oes neb wedi ymgynghori â nhw, a bod angen ymchwil pellach ar y cynllun gan ei fod yn rhy amwys ar hyn o bryd ynglyn â'r hyn fydd yn digwydd.

"Mae'n anhygoel bod y cyngor wedi mabwysiadu polisi heb feddwl yn ddigonol am nifer o bwyntiau pwysig mae angen edrych arnynt," meddai Peter Cole.

Ychwanegodd: "Fe benderfynon nhw ar y cynllun hwn, ond ddaethon nhw ddim i siarad â ni - dyden nhw dal ddim wedi."

Mae'r grwp yn edrych ar ffyrdd i ymladd y cynigion yn y llys ac yn cynllunio cyfarfodydd eraill yn y dyfodol agos.

Paratoi strategaeth ar gyfer y dyfodol

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud eu bod wedi bod yn agored gyda thrigolion: "Dros y can mlynedd nesaf, fe fydd cymunedau arfordirol ar hyd arfordir Prydain yn newid oherwydd cynnydd yn lefel y môr a newid i batrymau'r tywydd yn sgil cynhesu byd eang.

"Yn hytrach nag anwybyddu'r hyn sy'n anochel, mae Cynllun Rheoli Arfordir gorllewin Cymru yn canolbwyntio mewn manylder ar sut y bydd y newidiadau hyn yn effeithio cymunedau arforfirol ar hyd 180 milltir o arfordir y sir.

"Mae'r cyngor i encilio rhai cymunedau yn dod o Gynlluniau Rheoli Arfordir y cynghorau, sy'n creu strategaeth i'r dyfodol wedi ei selio ar amddiffynfeydd presennol, pwysigrwydd economaidd yr ardal a gwybodaeth am gynnydd yn lefel y môr.

Mae'r cyngor wedi derbyn eu cynllun rheoli yn 2012 ac yn dweud eu bod wedi'i gyflwyno i'r 36 o gynghorau cymuned, trefi a dinasoedd ar hyd yr arfordir o Fangor i Aberdyfi.

Yn achos Fairbourne, medd y cyngor, fe gafodd y cynllun ei gyflwyno i gyngor cymuned lleol Arthog ar Mai 1, 2013.

"Yn dilyn y cyfarfod hwn, fe gafodd adroddiad ei gyflwyno ym mis Mehefin 2013 i bartneriaid posib gan gynnwys Llywdoraeth Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri, Cyfoeth Naturiol Cymru, a Chyngor Cymuned Arthog fel cam cyntaf tuag at sefydlu bwrdd prosiect fyddai'n canolbwyntio mewn manylder ar sefyllfa'r Friog a'r opsiynnau amrywiol posib ar gyfer rheoli erydu arfordirol."

Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf o Fwrdd Prosiect Fairbourne ar Awst 28, ac fe gafodd egwyddorion eu sefydlu ar gyfer cyfathrebu gyda'r gymuned leol.

Fe fydd y Bwrdd yn dosbarthu taflenni i drigolion Fairbourne yn fuan a bydd nifer o gyfarfodydd cyhoeddus yn cael eu cynnal ym mis Mai/Mehefin, ac ym mis Awst a Hydref.

50 o gymunedau

Mae cadeirydd grwp y Friog, Peter Cole, yn dweud nad ydi hyn yn fater i Fairbourne yn unig.

"Mae 'na gymunedau eraill o amgylch Cymru sydd mewn sefyllfa debyg. Mae'r modd fyddwn ni'n cael ein trin yn gosod y ffordd ar gyfer cymunedau eraill ar ein hôl."

Mae Fairbourne yn un o 50 o gymunedau sydd ar restr o ardaloedd fydd yn gorfod encilio rhag y môr yn ystod y 45 mlynedd nesaf.

£135m yn flynyddol

Mae adroddiad gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn 2010 yn datgan y byddai angen gwario £135 miliwn yn flynyddol ar amddiffynfeydd arfordirol ac ar lifogydd erbyn 2035 yng Nghymru, dim ond i gynnal y lefel risg presennol.

Fe fyddai adeiladu mwy o amddiffynfeydd, er mwyn tynnu pobl o ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd, yn golygu cynnydd blynyddol o £170 miliwn mewn gwariant erbyn 2035.