TGAU Saesneg: Adolygiad gan y gweinidog

  • 7 Mawrth 2014
Huw Lewis AC
Mae'r Gweinidog Addysg Huw Lewis wedi gorchymyn 'ymarfer casglu gwybodaeth'

Mae'r Gweinidog Addysg, Huw Lewis, wedi dweud y bydd swyddogion yn ymchwilio i'r ffactorau gyfranodd ar y dirywiad mewn canlyniadau TGAU Saesneg yng Nghymru ym mis Ionawr.

Nid yw'r datganiad yn ymateb i alwad pennaeth Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru (CBAC), Gareth Pierce, y dylai Llywodraeth Cymru ail-ystyried cyflwyno nifer o gyrsiau TGAU newydd fis Medi nesaf.

Yn yr hyn y mae'r gweinidog yn ei ddisgrifio fel "ymarfer casglu gwybodaeth" fe fydd ei swyddogion yn :-

  • Asesu canlyniadau TGAU Saesneg Iaith Ionawr 2014 er mwyn sefydlu'r prif faterion sydd wrth wraidd y canlyniadau;
  • Nodi canolfannau lle'r oedd y canlyniadau yn wahanol iawn i'r canlyniadau a ddisgwyliwyd;
  • Nodi pa gamau y mae angen eu cymryd i helpu ymarferwyr wrth iddynt gofrestru yn y dyfodol.

Disgwyl sefydlogrwydd

Wrth gydnabod y pryderon am ganlyniadau'r arholiadau ym mis Ionawr, fe ddywedodd y datganiad:

"Mae'r trafferthion sydd wedi codi gyda chanlyniadau TGAU Saesneg Iaith CBAC mis Ionawr 2014 yn ymwneud â'r unedau.

"Mae canlyniadau'r unedau yn is na'r canlyniadau ar gyfer y fanyleb flaenorol yn Ionawr 2013, ond nid ydynt yn hawdd eu cymharu gan fod strwythur y cymhwyster wedi newid.

"Mae Llywodraeth wedi mabwysiadu'r egwyddor "canlyniadau cymaradwy" wrth reoleiddio TGAU, UG a Safon Uwch. Oni bai bod sefydliadau dyfarnu'n cynnig rhesymeg cryf dros newid, rydym yn disgwyl i ganlyniadau yn y pynciau mawr fel TGAU Saesneg Iaith fod yn sefydlog o un flwyddyn i'r llall."

Mwy'n cofrestru

Roedd y gweinidog hefyd yn nodi ei bryder bod cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y disgyblion oedd wedi cofrestru'n gynnar ar gyfer cymwysterau TGAU.

Yn achos TGAU Saesneg roedd 37,000 wedi cofrestru ar gyfer Ionawr 2014 o gymharu â 30,000 yn Ionawr 2013.

Ychwanegodd Mr Lewis y byddai'r ymarfer casglu gwybodaeth yn digwydd dros yr wythnosau nesaf gyda'r canlyniadau cychwynnol yn cael eu hadolygu erbyn diwedd Mawrth 2014.

Ni fydd unrhyw benderfyniad ar gamau posib eraill tan ar ôl hynny.

'Newid yn anodd'

Er hynny roedd ei ddatganiad yn gorffen ar nodyn pendant :-

"Ein rhaglen ddiwygio, sy'n seiliedig ar argymhellion yr Adolygiad annibynnol o Gymwysterau a arweiniwyd gan Huw Evans OBE, yw'r pecyn cywir o ddiwygiadau i Gymru.

"Hoffwn ddatgan yn glir ein bod yn ymrwymedig i'n rhaglen ddiwygio er mwyn cynyddu trylwyredd yn y system gymwysterau yng Nghymru.

"Rydym yn gwybod bod ein rhaglen ddiwygio'n iawn gan fod cyflogwyr wedi'i chroesawu ac mae wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol.

"Mae newid wastad yn anodd, ond y dysgwyr yw ein blaenoriaeth o hyd, a byddwn yn sicrhau nad yw unrhyw ddiwygiadau'n cael effaith negyddol arnynt."

Ymateb

Yn gynharach ddydd Gwener dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg, Angela Burns: ''Mae hon yn sefyllfa hollol anffodus. Mae gen i gydymdeimlad mawr gyda'r farn y dylid oedi cyn gweithredu newidiadau.

''I fod yn hollol glir, rydyn ni angen cymwysterau fydd yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol.

"Mae Cymru wedi penderfynu dilyn ei thrywydd ei hun, ac mae Llywodraeth Cymru yn dymuno cael system gymwysterau gwbl annibynnol, ac mae'n rhaid i ni wneud yn siwr fod hyn yn mynd yn ei flaen yn ddi-drafferth, achos heddiw mae hyder ac enw da'r system addysg yng Nghymru wedi ei niweidio."

Bydd llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Simon Thomas yn cyflwyno cwestiwn brys yn y Cynulliad am y canlyniadau'r wythnos nesaf.

Dywedodd: "Byddwn i ddim yn oedi heblaw bod tystiolaeth ddifrifol bod rhywbeth o'i le, felly dwi am weld dadansoddiad, ymchwiliad, fyddwn ni'n codi'r peth yr wythnos nesaf yn y Cynulliad mae'n sicr, ac wedyn gweld y ffordd ymlaen o hynny.

"Does dim tystiolaeth bod angen oedi eto, ond mae hynny'n bosibiliad os yw tystiolaeth yn pwyntio yn y ffordd yna."