Mansfield 2-1 Casnewydd

Casnewydd

Mansfield 2-1 Casnewydd

Gôl munud olaf y chwaraewr canol cae, Anthony Howell, yn sicrhau buddugoliaeth i Mansfield yn erbyn Casnewydd.

Roedd Mansfield ar y blaen o fewn yr hanner awr cyntaf gyda Ryan Tafazolli yn penio i'r rhwyd.

Ond o fewn 20 munud, roedd Casnewydd wedi taro'n ôl.

Roedd cic Rene Howe o'r canol i gornel chwith y rhwyd wedi rhoi'r ddau dîm yn gyfartal.

Roedd saith o gardiau melyn wedi'u rhoi ac roedd hi'n syndod bod y gêm wedi gorffen gyda 22 o chwaraewyr yn dal ar y cae.

Fe welodd Casnewydd ei chyfleoedd gorau pan saethodd Adam Chapman yn agos o 25 llath; hefyd, ymdrech Lee Minshull o 20 llath.

Ond yn anffodus, ym munudau olaf'r gêm, fe fanteisiodd Mansfield ar amddiffyn gwael Casnewydd.

Sgoriodd y chwaraewr canol cae, Anthony Howell, ei bedwaredd gôl o'r tymor gan sicrhau buddugoliaeth i'r tîm cartref.

Mae Casnewydd wedi cwympo un safle i'r 11eg safle, gyda 44 o bwyntiau, a dwy gêm mewn llaw.

Dywedodd rheolwr Casnewydd, Justin Edinburgh wrth BBC Cymru: "Mae'n siomedig iawn a dylen ni fod wedi delio efo pethau'n well.

"Roedd ni'n rheoli cyfnodau hir o'r ail hanner ac os nad yden ni'n ennill gêm, fe wnawn ni'n siwr nad yden ni'n ei cholli.

"Yn anffodus, ryden ni wedi, ac mae'n hynod o siomedig ac mae'n rhaid i ni ymateb gan nad ydio'n ddigon da."

Mae Mansfield, ar y llaw arall, wedi symud i fyny Adran 2, o safle 20 i 17.

Mae nhw gyda 42 o bwyntiau, wedi chwarae 35 o gemau.