Gatland: profiad Cymru yn fantais dros Loegr

Warren Gatland
Gatland: 'Mae 'na wahaniaeth sylweddol o ran profiad a chapiau ...'

Mae hyfforddwr rygbi Cymru Warren Gatland yn credu bod profiad ei chwaraewyr yn ddigon i guro Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sul.

Mae gan Gymru 14 o Lewod yn eu carfan ar gyfer y gêm tra bod ond un i Loegr, Owen Farrell.

Un newid sydd i dîm Lloegr ers eu buddugoliaeth dros Iwerddon, gyda Ben Morgan yn lle Billy Vunipola.

Ond yn ôl Gatland, mae profiad Cymru a'r ffaith fod Lloegr heb rai o'u chwaraewyr gorau yn rhoi mantais i'r ymwelwyr.

"Mae 'na wahaniaeth sylweddol o ran profiad a chapiau a dwi'n meddwl y gallwn ni ennyn mwy o hyder o hynny ...," meddai.

Hyder

"Rydyn ni wedi ennill y tair gêm ddiwethaf ac os gallwn ni ennill i yno [Twickenham] eto ... mae'n bosib y bydd hynny'n cael effaith seicolegol o gofio bod dwy gêm fawr yn Twickenham y flwyddyn nesaf [yng Nghwpan y Byd].

"Os gallwn ni ennill ddydd Sul, gallwn ni ddod yn ôl yn hyderus a cheisio adeiladu ar hynny dros y 18 mis nesaf."

Dywedodd ei fod yn ymwybodol o fygythiad rhai o olwyr Lloegr, gan gynnwys Mike Brown.

"Ond er mor dda mae wedi chwarae," meddai, "mae tri neu bedwar chwaraewr allweddol ddim yn y tîm, fel Corbisiero, Cole, Parling neu Tuilagi."

Ben Morgan
Ben Morgan yw'r unig newid i dîm Lloegr i chwarae Cymru

Mae Cymru, Lloegr, Ffrainc ac Iwerddon ar frig y tabl gyda phedwar o bwyntiau.

Ond mae gan Iwerddon fantais fawr o ran gwahaniaeth pwyntiau.

Mae Cymru wedi ennill y tair gêm ddiwethaf yn erbyn Lloegr, gan gynnwys crasfa o 30-3 yn Stadiwm y Mileniwm y llynedd.

Ond byddai buddugoliaeth i Loegr ddydd Sul yn sicrhau'r Goron Driphlyg i dîm Stuart Lancaster am y tro cyntaf ers 2003.

Un newid i Loegr

Wythwr Caerloyw Ben Morgan yw'r unig newid i dîm Lloegr yn erbyn Cymru ddydd Sul.

Mae yn lle Billy Vunipola sydd wedi anafu ei ffêr.

Wedi perfformiadau cryf fel eilydd mae Morgan yn cael dechrau am y tro cyntaf ers taith yr haf yn Ne America.

Blaenwr Caerwysg, Tom Johnson, sydd yn ei le ar y fainc.

Dyw Johnson ddim wedi chwarae dros ei wlad ers 2012 ond bydd cyfle iddo ennill ei chweched cap ddydd Sul.

Dywedodd hyfforddwr Lloegr Stuart Lancaster: "Mae'r perfformiad yn erbyn Iwerddon wedi rhoi llawer o hyder i ni cyn y gêm hon yn erbyn tîm Cymru sy' o safon uchel iawn ac rydyn ni'n teimlo ei bod hi'n iawn i roi cyfle arall i'r rhan fwyaf o'r 23 (y garfan) eto.

"Allwn ni ddim aros i chwarae gartref eto.

"Dywedodd y chwaraewyr bod awyrgylch gêm Iwerddon yn un o'r goreuon yr oedden nhw wedi profi a dwi'n siŵr y bydd yr un peth ddydd Sul.

"Yn sicr, mae'n rhoi hwb ychwanegol a dyna beth rydyn ni eisiau yn erbyn tîm da arall sydd am amddiffyn eu teitl."

Lloegr v Cymru, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, Twickenham, ddydd Sul Mawrth 9, 15:00

Tîm Lloegr: Mike Brown, Jack Nowell, Luther Burrell, Billy Twelvetrees, Jonny May; Owen Farrell, Danny Care; Ben Morgan, Chris Robshaw (capt), Tom Wood, Courtney Lawes, Joe Launchbury, David Wilson, Dylan Hartley, Joe Marler

Eilyddion: Tom Youngs, Mako Vunipola, Henry Thomas, Dave Attwood, Tom Johnson, Lee Dickson, George Ford, Alex Goode