Perygl i Gymru gael ei 'thynnu i lawr gan bleidiau Llundain'

  • 7 Mawrth 2014
Leanne Wood
Image caption Mae Leanne Wood wedi herio UKIP drwy ddweud bod pleidlais i'r blaid honno'n "bleidlais yn erbyn Cymru".

Gan fod etholiad Senedd Ewrop ym mis Mai, mae arweinydd Plaid Cymru wedi rhybuddio bod Cymru "yn wynebu dewis o ddau ddyfodol" gyda pherygl i Gymru gael ei "thynnu lawr gan bleidiau Llundain"

Yng nghynhadledd wanwyn Plaid Cymru yng Nghaerdydd dywedodd Leanne Wood y byddai Cymru'n wynebu dewis yn yr etholiad rhwng "ffobia gwrth Ewropeaidd" neu "Gymru lewyrchus, rydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd".

Gan fod ei phlaid yn cario "mantell gwleidyddiaeth flaengar," meddai, apeliodd at bobl oedd yn anfodlon ar y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Werdd i bleidleisio i Blaid Cymru.

Dadleuodd y gallai materion fel newid yn yr hinsawdd a chydweithrediad rhyngwladol gael eu "gwthio oddi ar yr agenda os yw pleidiau adweithiol yn ennill yr etholiad".

'£5 bilwn o fasnach'

Fe ddaeth Aelod Seneddol Ewrop Plaid Cymru, Jill Evans, yn drydedd yn yr etholiadau diwethaf yn 2009 y tu ôl i'r blaid Geidwadol a Llafur, gyda'r bedwaredd sedd yn mynd i UKIP.

Dywedodd yr arweinydd wrth y gynhadledd - sydd â slogan "rhoi Cymru yn gyntaf" - fod "ein busnesau yn dibynnu ar werth £5 biliwn o fasnach gyda'n partneriaid yn yr UE bob blwyddyn.

"Mae ein gwlad wedi elwa ar fuddsoddiad yn ein seilwaith a chymunedau, gyda mwy ar y gorwel. Mae mwy nag un o bob 10 o swyddi yn dibynnu'n uniongyrchol ar ein haelodaeth o'r UE.

"Dyna 150,000 o resymau i bleidleisio dros Blaid Cymru yn yr etholiad hwn ym mis Mai. "

Apeliodd at y cyhoedd yng Nghymru i "gyd-dynnu er mwyn rhagolygon economaidd y wlad".

Heriodd UKIP drwy ddweud bod pleidlais i UKIP "yn bleidlais yn erbyn Cymru".

"Ni allwn ac ni fyddwn yn gadael i'w gwleidyddiaeth hyll ein rhannu ni ym mis Mai", meddai.

Buddsoddiad

Yn ei haraith dywedodd arweinydd y blaid y byddai'n cynnal ymgynghoriad efo busnesau ynglŷn â'r syniad o greu corff newydd.

Bwriad y corff fyddai cyfeirio buddsoddiad gan yr Undeb Ewropeaidd i'r ardaloedd cywir a diwygio'r system cyfraddau busnes.

Dywedodd Leanne Wood: "Bydd y corff hwn yn cael ei arwain gan y sector breifat ac yn ceisio cyfleon i fuddsoddi nawdd Ewropeaidd, nawdd cyhoeddus arall a chyfalaf preifat er mwyn sicrhau budd economaidd yn y tymor hir.

"Bydd yn sefydlu presennoldeb i Gymru o fewn y sector menter cyfalaf er mwyn cyfateb syniadau gyda buddsoddiad, y tu fewn a thu allan i Gymru.

"A bydd yn trawsnewid y meddylfryd o osgoi risg a'r diwylliant presennol o weinyddu'n hytrach na gyrru.

'Dyfodol i'r iaith'

Dywedodd bod y blaid yn "benderfynol o sicrhau dyfodol i'r iaith Gymraeg er mwyn iddi dyfu".

Mae hyn yn golygu, meddai, buddsoddi mewn system gofal plant "sydd yn sicrhau cyflenwad digonol o ofal trwy gyfrwng y Gymraeg, i sicrhau bod y cenedlaethau nesaf gyda'r hawl i ddechrau eu bywydau yn ddwyieithog".

Mewn trafodaeth ar adroddiad Comisiwn Silk fore Gwener, dywedodd Eurfyl ap Gwilym, a fu'n aelod o'r comisiwn, fod yr adroddiad yn "gam arall ar y daith", ond bod "cryn nifer o gamau eraill i'w cymryd".

Dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru, wrth y gynhadledd y byddai gweithredu argymhellion Silk yn arwain at "gyfundrefn fwy sefydlog a chynaliadwy, gan hwyluso atebolrwydd go iawn".

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.