Craig yr Oesoedd: Celf o gyn-hanes

  • 6 Mawrth 2014
Alan Bowring
Image caption Daeth Alan Bowring o hyd i'r garreg tra'n gweithio ym Mannau Brycheiniog

Mae celf o'r Oes Efydd, gafodd ei gerfio ar garreg sydd dros 4,000 o flynyddoedd oed, wedi ei ddarganfod ym Mannau Brycheiniog.

Mae arbenigwyr yn tybio fod y garreg wedi cael ei defnyddio fel cymorth i adnabod llwybr gan gymunedau amaethyddol cyn-hanesyddol.

Cafodd cerrig tebyg eu darganfod mewn ardaloedd eraill ym Mhrydain, ond mae cerrig o'r math hwn yn brin yng nghanolbarth Cymru.

Mae union leoliad y garreg yn cael ei gadw'n gyfrinach. Cafodd carreg debyg â chelf wedi ei cherfio arni ei darganfod yn ucheldiroedd yr Alban yn ddiweddar.

Mae'r garreg yn y Bannau tua 1.45m o hyd ac yn hanner metr ar draws, ac mae 12 pant o amrywiol siapiau wedi eu naddu ar wyneb y garreg.

Yn ôl arbenigwyr mae'n bosib fod y garreg wedi sefyll yn syth un adeg, ond mae hi bellach yn gorwedd ar ei chefn.

'Nodweddion cudd'

Cafodd y garreg ei darganfod ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf gan Alan Bowring, pan roedd yn gweithio fel daearegwr i'r Parc Cenedlaethol. Dywedodd Mr Bowring:

''Rwy'n aml yn gweithio a cherdded mewn mannau anghysbell, a dod ar draws nodweddion cudd yn nhirlun de a chanolbarth Cymru nad oes llawer o bobl eraill wedi eu gweld.

''Ond mae'r darganfyddiad hwn yn ymddangos yn un arwyddocaol i'n dealltwriaeth o hanes diwylliannol pobl yn yr ardal yma.''

Fe gadarnhaodd Dr George Nash, sydd yn archeolegwr ac arbenigwr mewn celf cyn-hanesyddol a chyfoes ym Mhrifysgol Bryste, fod Mr Bowring wedi darganfod yr enghraifft gyntaf o'r math yma o garreg yn y Bannau Brycheiniog.

Dywedodd Dr Nash fod siâp y garreg a'r gelf oedd wedi ei naddu ar eu hwyneb yn awgrymu ei bod yn dyddio yn ôl i 2500 CC - 1500 CC.