Cymru 3-1 Gwlad yr Iâ

Gareth Bale

Fe ddychwelodd Gareth Bale i'w ddinas enedigol i roi perfformiad gwych i sicrhau buddugoliaeth i Gymru yn erbyn Gwlad yr Iâ.

Ymosodwr Real Madrid sgoriodd y trydydd gôl yn y fuddugoliaeth yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae'n golygu fod tîm Chris Coleman nawr wedi chwarae pedair gêm yn ddiguro.

Gwlad yr Iâ gafodd y gorau o'r hanner cynta, ond doedd yna ddim ateb i sgiliau Bale yn yr ail hanner.

Cymru aeth ar y blaen ar ôl 11 munud o'r gêm, gyda chroesiad Bale o gic rydd yn darganfod pen James Collins.

Ond Gwlad yr Iâ oedd yn rheoli meddiant yng nghanol y cae gan wneud pethau'n anodd i Gymru.

Daeth yr ymwelwyr yn gyfartal ar ôl 25 munud, camgymeriad gan y capten Ashley Williams yn rhoi'r bêl i rwyd ei hun.

Ond yna tro Bale oedd hi i ddangos ei ddoniau.

Ar ôl 62 munud derbyniodd bas hir gan Williams ac aeth hebio Ari Skulason.

Er i'w ergyd gael ei rwystro, roedd Vokes ar gael i daro'r bêl i gefn y rhwyd.

Daeth gôl Bale ar ôl 70 munud, gydag ymosodiad ddechreuodd yn hanner ei hun.

Fe gurodd Solvi Geir Jonsson ac yna aeth heibio chwaraewr arall ac ergydio gyda'i droed chwith i gefn y rhwyd.

CYMRU: Hennessey, Gunter, Taylor, Huws, Collins (Gabbidon '45), Williams (Ricketts 64' ), Robson-Kanu (Davies 88' ) , Allen, Vokes, King (Collison 76' ) , Bale (Williams 72' ).

GWLAD YR IÂ: Halldórsson, Bjarnason, Skúlason (Jonsson 84'), Gunnarsson, Arnason, Sigurdsson (Ottesen '45), Gudmundsson, Sigurdsson, Sigthorsson (Sverrisson 76' ), Finnbogason (Bjarnason '45), Hallfredsson