Iechyd: Cyflwr ariannol yn gwella

  • 6 Mawrth 2014
Ysbyty Image copyright Spl
Image caption Mae'r adroddiad yn dweud fod cyflwr ariannol y Gwasanaeth Iechyd yn gwella

Mae cyflwr ariannol y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn gwella, ond mae yna le i wella eto, yn ôl adroddiad gan un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Dywed y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus eu bod yn croesawu newidiadau diweddar yn y modd y mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadau trefn fwy hyblyg tuag at gynllunio ariannol.

Ond maen nhw'n dweud nad ydynt wedi eu hargyhoeddi fod yna ddigon o gynllunio wedi bod wrth gyflwyno'r drefn newydd.

Ymhlith argymhellion y pwyllgor, mae un sy'n dweud fod yna fwy o bwyslais yn cael ei roi ar ddwyn uwch reolwyr i gyfrif.

Dywed Llywodraeth Cymru y byddant yn astudio cynnwys yr adroddiad.

Yn ôl adroddiad y pwyllgor gafodd ei gyhoeddi ddydd Iau, mae angen rhoi mwy o gymorth i fyrddau iechyd wrth lunio cynlluniau ariannol.

Hefyd mae aelodau'r pwyllgor yn dweud fod angen mwy o wybodaeth ynglŷn â'r criteria sy'n cael ei ddefnyddio i asesu'r byrddau iechyd.

Arian ychwanegol

Dywed y pwyllgor, yn eu hadroddiad, eu bod yn bryderus fod cais am wybodaeth am sefyllfa ariannol y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi cymryd dau fis i'w ateb.

Yn ôl aelodau'r pwyllgor, roedd hyn yn codi cwestiwn a oedd Llywodraeth Cymru yn llwyr ymwybodol o'r sefyllfa.

Dywed yr adroddiad fod yna ddryswch am yr arian ychwanegol, £200 miliwn, gafodd ei roi i'r gwasanaeth iechyd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, nid bwriad yr arian oedd digolledu'r byrddau iechyd oedd yn wynebu bwlch ariannol o £212 miliwn.

Dywed y Pwyllgor fod taliadau o'r fath yn ystod y flwyddyn ariannol yn ychwanegol at y broblem o gynllunio cyllidol gwael o fewn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 12 o argymhellion, gan gynnwys rhoi mwy o bwyslais ar ddwyn uwch reolwyr i gyfrif, er mwyn sicrhau bod penderfyniadau ariannol yn dryloyw.

Hefyd, o gofio peryglon cynllunio ariannol dros gyfnod o dair blynedd, dylai Llywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol bod:

  • Cynllun cwbl gytbwys dros gyfnod o dair blynedd ar gyfer pob bwrdd iechyd, gyda gwybodaeth i'w gefnogi;
  • Cynlluniau ariannol cyfunol sy'n dangos sut y bydd cyllidebau yn dangos cydbwysedd ar draws y GIG yn gyffredinol bob blwyddyn;
  • Cynlluniau wrth gefn, manwl ar gael sy'n nodi sut y bydd byrddau iechyd yn ymateb os na wireddir arbedion o fuddsoddiadau ymlaen llaw, fel y cynlluniwyd, a/neu fod pwysau cost ychwanegol;
  • Bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi sail rhesymegol glir o ran arian ar gyfer adnoddau ychwanegol yn ystod y flwyddyn i gyrff y Gwasanaeth Iechyd.

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: "Mae'r Pwyllgor yn croesawu'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â materion cyllid y maes iechyd, yn arbennig y trefniadau mwy hyblyg.

"Fodd bynnag, rydym yn pryderu'n fawr am y dulliau rheoli sydd ar waith i gynorthwyo byrddau iechyd i gynllunio'n fwy hyblyg, ac rydym am weld atebolrwydd llymach gan uwch reolwyr, a rhagor o dryloywder ym maes cynllunio ariannol."

Fe fydd gwariant y Gwasanaeth Iechyd yn codi o £5.722 biliwn i £5.927 y flwyddyn nesaf.

Er gwaetha help llaw gan y llywodraeth, mae byrddau iechyd wedi ei chael hi'n anodd i beidio â mynd i ddyled erbyn diwedd bob blwyddyn ariannol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn diolch i'r pwyllgor am eu gwaith.

"Rydym wedi ein calonogi gan y sylwadau agoriadol fod yna gynnydd i'w weld.

"Hefyd pan fydd mesur Ariannol y Gwasanaeth Iechyd yn dod i rym ym mis Ebrill eleni, rydym yn gwybod y bydd y byrddau iechyd yn gallu cynnig gwell cynllunio ariannol a gwasanaeth wedi'i integreiddio yn well."

Straeon perthnasol