Prifysgol Caerydd yn rhoi tair blynedd o nawdd i Tafwyl

  • 4 Mawrth 2014

Mae Prifysgol Caerdydd wedi addo £22,000 i ŵyl flynyddol Tafwyl yng Nghaerdydd mewn cytundeb noddi fydd yn para tair blynedd.

Fel noddwr swyddogol Tafwyl, bydd Prifysgol Caerdydd yn adeiladu ar ei chysylltiadau presennol â'r ŵyl a'i threfnwyr, Menter Caerdydd, yn ôl datganiad gan y brifysgol.

Yn ôl Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Hywel Thomas: "Mae'n bleser gan Brifysgol Caerdydd gefnogi Tafwyl fel ei noddwr swyddogol. Mae gan y Brifysgol ymrwymiad cryf i'r Gymraeg ac i'w chymunedau cyfagos.

'Man cyfarfod gwych'

''Erbyn hyn, mae gennym fwy o fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith nag erioed o'r blaen a chredwn fod yr ŵyl yn fan cyfarfod gwych i selogion y Gymraeg o bob gallu ddod at ei gilydd i ddathlu cydwerthfawrogiad o'n hiaith sy'n tyfu ac yn esblygu o hyd. Yn y blynyddoedd sydd i ddod, rwy'n gobeithio y bydd cyfraniad y Brifysgol at yr ŵyl yn helpu i'w gwneud yn ddigwyddiad yr un mor barhaol â'r Eisteddfod yng nghalendr diwylliannol Cymru."

'Cynnig sicrwydd i'r ŵyl'

Dywedodd Prif Weithredwr Menter Caerdydd, Sian Lewis: "Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi bod Tafwyl yn tyfu ac ehangu, diolch i'r gefnogaeth newydd gan Brifysgol Caerdydd. Mae'r gefnogaeth gan y Brifysgol yn cynnig sicrwydd i'r ŵyl ac yn galluogi'r Fenter i gynllunio at ddyfodol llewyrchus i'r ŵyl. Mae cael Prifysgol Caerdydd fel Prif Noddwr yn hwb enfawr a chyffrous ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gydweithio."

Bydd yr ŵyl yn cael ei hagor yn swyddogol gan y Prif Weinidog Carwyn Jones eleni, ar Orffennaf 12, ac mae wedi disgrifio'r digwyddiad fel rhan o'i ymrwymiad i "sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn iaith fyw sy'n cael ei defnyddio yn y gymuned".

Cafodd Tafwyl ei sefydlu nôl yn 2006 gan Fenter Caerdydd er mwyn ceisio codi ymwybyddiaeth o'r iaith yn y ddinas.

Roedd yn arfer cael ei chynnal yng ngardd tafarn y Mochyn Du, ger Gerddi Soffia, ond symudodd i'r castell yn 2012 wrth i faint ac uchelgais y fenter gynyddu.

Yn 2013, fe benderfynodd Cyngor Caerdydd roi'r gorau i roi nawdd i'r ŵyl, wrth iddyn nhw geisio arbed arian, ac roedd pethau'n edrych yn ddu am gyfnod.

Ond fe benderfynodd Llywodraeth Cymru gamu i'r adwy, gyda'r gweinidog oedd â chyfrifoldeb dros yr iaith ar y pryd, Leighton Andrews, yn disgrifio'r ŵyl fel "achos unigryw".