Penfro: Undeb i gynnal pleidlais o ddiffyg hyder

Bryn Parry Jones
Bryn Parry Jones

Mae aelodau o undeb UNSAIN sy'n gweithio i Gyngor Penfro, am gynnal pleidlais o ddiffyg hyder yn y Prif Weithredwr, Bryn Parry Jones.

Ym mis Chwefror, penderfynodd y cyngor dderbyn casgliadau adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) oedd yn dweud bod yr awdurdod wedi gwneud taliadau anghyfreithlon. Mae'r polisi a drafodwyd yn adroddiad yr archwilydd wedi ei ddiddymu.

Doedd llefarydd Cyngor Sir Penfro ddim am wneud sylw ar y bleidlais diffyg hyder a fydd yn cael ei chynnal ddydd Iau.

Mae Heddlu Swydd Gaerloyw yn cynnal ymchwiliad yn sgil cyhoeddi adroddiadau'r Swyddfa Archwilio am gynghorau sir Caerfyrddin a Phenfro.

Mae prif weithredwr Sir Gâr, Mark James, wedi camu o'r neilltu tra bod ymchwiliad heddlu yn digwydd. Mae Mr James wedi dweud nad yw e na'i swyddogion wedi gwneud dim o'i le.

Er gwaetha'r galwadau ar Bryn Parry Jones i gamu i'r ochr hefyd, mae e wedi dweud y bydd yn parhau â'i waith tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

Wrth siarad am y sefyllfa yn Sir Benfro, dywedodd Vic Dennis, ysgrifennydd cangen UNSAIN, sydd â 2,000 o aelodau'n gweithio i gyngor Sir Penfro, fod angen i leisiau'r gweithwyr gael eu clywed.