Phil Davies yn gadael Gleision

Phil Davies
Roedd wedi bod wrth y llyw ers Mai 2012

Mae'r Gleision wedi cadarnhau bod Phil Davies wedi ymddiswyddo fel Cyfarwyddwr Rygbi.

Roedd wedi bod wrth y llyw ers Mai 2012.

Fe gyfarfu â swyddogion y clwb ddydd Llun cyn ymddiswyddo.

Mae cyfres o ganlyniadau siomedig wedi bod yn ddiweddar a chollodd y Gleision i Zebre, ar waelod y tabl, o 15-10 ddydd Sadwrn.

Degfed yw'r Gleision yn y Pro 12.

Dywedodd fod ei benderfyniad oherwydd ei yrfa yn y dyfodol a'i brofiadau o'r blaen yn y byd rygbi.

"Rwy' wedi mwynhau'r swydd," meddai, "y ffactorau fel arwain sy' ynghlwm wrth berfformio ar y lefel ucha'."

'System orau'

Dywedodd y prif weithredwr Richard Holland: "Mae'r gydberthynas â Phil wedi bod yn gryf ac rwy'n ddiolchgar iddo am ei gyfraniad.

"Pan oedd wrth y llyw roedd yn angerddol yn datblygu'r system orau ar gyfer chwaraewyr ac hyfforddwyr.

"Fe sy' wedi goruchwylio newidiadau mawr ac fe fyddwn yn elwa ar hyn yn y dyfodol.

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at gyfnod newydd o dan arweiniad newydd ac rydyn ni'n dymuno pob llwyddiant i Phil a'i deulu."