Sony'n creu 26 o swyddi yn ardal Pen-y-bont

Sony
Image caption Sony: 'Mae allgyfeirio wedi bod yn allweddol'

Mae Sony wedi dweud eu bod yn creu 26 o swyddi er mwyn cwrdd â mwy o alw.

Bydd y swyddi ar y lein gynhyrchu ac yn yr adran gwasanaethu cwsmeriaid yn y ganolfan dechnoleg ym Mhencoed ger Pen-y-bont.

Mae'r cwmni'n cynhyrchu camerau, dyfeisiadau meddygol a chyfrifiadur yr un maint â cherdyn credyd.

Dywedodd y Gweinidog Economi Edwina Hart: "Mae Sony yn un o'n cwmnïau angori pwysig ac yn cyfrannu'n fawr at yr economi oherwydd swyddi, datblygu sgiliau a buddsoddi ac mae'r ehangu'n newyddion gwych."

Yn ôl rheolwr gyfarwyddwr y ganolfan dechnoleg Steve Dalton, mae'r blynyddoedd diweddar wedi bod yn llwyddiannus.

"Mae allgyfeirio wedi bod yn allweddol.

"Hwn yw'r rheswm am ein llwyddiant ni, am greu swyddi."

Straeon perthnasol