Cwmnïau Cymreig ar daith fasnach i Rwsia

  • 3 Mawrth 2014
Edwina Hart
Dywedodd Edwina Hart bod cyfleoedd mawr i gwmnïau o Gymru yn Rwsia

Mae pum busnes o Gymru yn mynd ar daith i Rwsia i geisio hybu cysylltiadau masnach gyda'r wlad.

Bydd cynrychiolwyr o Aber Instruments o Aberystwyth, Licentia Group a myPinPad o Fae Caerdydd, Weartech International o Bort Talbot a Teddington Engineered Solutions o Lanelli yn teithio i brifddinas Rwsia, Moscow.

Y bwriad yw galluogi busnesau o Gymru ehangu eu cysylltiadau busnes, neu sefydlu rhai newydd, yn y wlad.

Dywedodd gweinidog yr economi, Edwina Hart, bod taith i Rwsia'r llynedd wedi dangos posibiliadau mawr i gwmnïau o Gymru.

"Fe wnaeth (y daith) amlygu'r potensial yn y farchnad yn Rwsia i Gymru ac rydw i'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r daith yma i helpu busnesau un ai ehangu i mewn i Rwsia neu ymchwilio i'r farchnad posib."

'Cyfleoedd busnes newydd'

Mae gan bedwar o'r busnesau sy'n rhan o'r daith gysylltiadau gyda Rwsia yn barod, ond bydd un, Teddington Engineered Solutions, yn ymchwilio i gyfleoedd busnes newydd ar y daith.

Eu bwriad yw cyflwyno eu gwasanaethau i gwmnïau olew, nwy a phŵer yn y wlad.

Dywedodd y rheolwr masnachol, Jason Thomas: "Mae Teddington yn edrych ymlaen yn fawr i ymchwilio i'r cyfleoedd sydd gan Rwsia ei gynnig."

Mae Weartech eisoes wedi sefydlu rhai cwsmeriaid yn Rwsia, ond maent yn gobeithio cynyddu eu presenoldeb yno.

"Fel cwmni sydd â phrofiad mewn masnach Ewropeaidd, a staff sydd yn rhugl yn y rhan fwyaf o ieithoedd Ewropeaidd, mae teithiau Llywodraeth Cymru wedi bod yn ddefnyddiol iawn i ni yn y marchnadoedd sydd â rhwystrau diwylliannol a ieithyddol mwy," meddai'r rheolwr gyfarwyddwr, David Estall.

"Mae cael cymorth gan arbenigwyr yn y farchnad yn ddefnyddiol, a gall teithio gyda phobl busnes tebyg fod yn werthfawr iawn."