Abertawe 1-1 Crystal Palace

  • 2 Mawrth 2014
Chico Flores sent off for Swansea against Crystal Palace Image copyright Huw Evans picture agency

Cyfartal oedd canlyniad y gêm rhwng Abertawe a Crystal Palace yn Stadiwm Liberty b'nawn Sul.

Roedd yr Elyrch ar y blaen am y rhan fwyaf o'r gêm, wedi gôl gan Jonathan De Guzmán wedi 25 munud.

Ond wedi i Chico Flores weld coch am dacl fudr yn y cwrt cosbi â deng munud yn weddill o'r ail hanner, fe sgoriodd Glenn Murray o'r smotyn i sicrhau pwynt i Palace.

Wrth i'r chwiban ola' nesau ac Abertawe i lawr i 10 dyn, fe frwydrodd Crystal Palace am gôl arall, ond fe lwyddodd yr Elyrch i amddiffyn yn llwyddiannus i ennill y pwynt.

Mae'r canlyniad yn gadael Abertawe yn 14eg yn yr Uwchgynghrair - dim ond wyth pwynt sydd rhyngddyn nhw a Fulham ar waelod y tabl.