Caeredin 31-25 Gweilch

  • 28 Chwefror 2014
Roedd prif hyfforddwr y Gweilch wedi rhybuddio y byddai'n 'her anodd'
Roedd prif hyfforddwr y Gweilch wedi rhybuddio y byddai'r gêm yn 'her anodd'

Caeredin 31-25 Gweilch

Noson siomedig i'r Cymry o gofio bod y Gweilch wedi maeddu Caeredin 44-10 ym Medi.

Cefnwr Caeredin Bezuidenhout oedd y seren, pedair cic gosb a dau drosiad.

Ciciodd Biggar bum cic gosb i'r Cymry a sgoriodd Hassler ddau gais ond doedd hyn ddim yn ddigon.

Cyn y gêm nos Wener dywedodd prif hyfforddwr y Gweilch Steve Tandy: "Mae'n wych bod y chwaraewyr rhyngwladol James King, Dan Biggar a Justin Tipuric gyda ni.

"Fe fyddan nhw'n hwb enfawr.

"Ond mae Caeredin wedi datblygu wrth i'r tymor fynd yn ei flaen ac fe fydd yn her anodd i ni."

Ulster 38-8 Dreigiau

Roedd Tommy Bowe yn amlwg wrth sgorio dau gais gwych yn erbyn y Dreigiau yn Ravenhill.

Ruan Pienaar sgoriodd y cais cynta' i Ulster cyn i Bowe, oedd yn gryf ac yn gyflym, groesi'r llinell ychydig o funudau cyn yr egwyl.

Roedd hi'n 31-0 ar yr egwyl cyn i'r blaenasgellwr Sean Doyle sgorio cais arall i Ulster.

Cafodd Ross Wardle gais i'r ymwelwyr.

Roedd y Dreigiau heb eu capten Andrew Coombs gafodd anaf i'w ysgwydd wrth hyfforddi i Gymru.

Eu gobaith oedd trechu Ulster wedi eu buddugoliaeth o 15-8 yn Rodney Parade ym mhenwythnos cynta'r tymor.

Ond mae tîm Lyn Jones wedi colli eu chwe gêm ddiwetha yn erbyn timau Gwyddelig.