Beirniadu bil diswyddiadau Betsi

  • 28 Chwefror 2014
staff GIC
Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gwario £796,024 yn 2010/11 ar daliadau diswyddo i dri unigolyn

Mi gafodd bron £1 miliwn ei dalu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel taliadau diswyddo i chwech aelod o staff rhwng 2010 a 2013.

Mae ceisiadau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i'r saith o fyrddau iechyd Cymru'n dangos bod £1.1miliwn wedi cael ei dalu gan dri o fyrddau eraill.

Mae'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi gwario dros £2.1 miliwn i gyd ers 2010 a hynny ar hyd at 25 o ddiswyddiadau.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud bod y ffigwr yn "anhygoel".

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei fod yn disgwyl i gyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd sicrhau bod taliadau yn "gwneud y defnydd gorau o arian cyhoeddus."

£800,000 i dri aelod o staff Betsi Cadwaladr

Roedd tri aelod o staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi derbyn bron £800,000 mewn taliadau diswyddo yn 2010/11.

Roedd y gweithwyr hyn o adran "gweinyddol a chlerigol" y Bwrdd, staff sy'n cynnwys swyddogion clerigol, rheolwyr, uwch-reolwyr, prif weithredwyr a chadeiryddion.

Doedd dim diswyddiadau yn y flwyddyn ganlynol, ond fe gafodd tri arall ei diswyddo yn 2012/13 ar gost o £139,837 mewn taliadau diswyddo.

Roedd un aelod o staff o'r adran "gweinyddol a chlerigol" a'r ddau arall yn staff clinigol, adran sy'n cynnwys gweithwyr gofal a chynorthwyol, nyrsus cynorthwyol, gweithwyr iechyd cynorthwyol, gweithwyr labordy cynorthwyol ac ati.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Mae diswyddiadau'n cael eu gwneud mewn amgylchiadau eithriadol, megis ail-strwythuro'r bwrdd iechyd."

Ychwanegodd y llefarydd eu bod yn ceisio symud unigolion i swyddi addas lle bo hynny'n briodol ond pan fo diswyddiadau'n anochel, eu bod yn dilyn canllawiau taliadau diswyddo'r GIG.

£2.3m o daliadau

Doedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro heb ddarparu ffigyrau ar gyfer 2010/11 ond roedden nhw wedi gwario £785,140 ar gyfanswm o 9 diswyddiad rhwng 2011/12 - 2013/14.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn dweud eu bod nhw wedi talu £211,000 mewn taliadau diswyddo dros y tair mlynedd diwethaf ar gyfer "llai na 10 staff".

Roedd £220,000 pellach wedi cael ei wario ar gostau cyfalafog lle mae unigolion yn dewis derbyn eu pensiwn yn hytrach na swm diswyddo mewn un taliad.

Er nad oedd diswyddiadau o gwbl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys dros y tair mlynedd diwethaf, roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi talu £9,212 i un aelod o staff adawodd yn 2012.

Cleifion yn iawn i gwestiynu'r "symiau anhygoel"

Mae Gweinidog Iechyd yr wrthblaid, Darren Millar, wedi dweud: "Bydd cleifion yn iawn i gwestiynnu pam fo symiau anhygoel yn cael eu talu i'r bobl mae llawer yn eu gweld fel pobl blonegog y GIC.

"Ar ddiwedd y dydd, mae 'na gleifion sy'n dioddef ar restrau aros, ac eto, mae'n ymddangos bod y GIC yn gallu fforddio talu cannoedd ar filoedd o bunnau i uwch reolwyr sydd â'u cytundebau cyflogaeth yn dod i ben".

"Mae angen i weinidogion Llafur Cymru roi rhywfaint o sicrwydd i gleifion ar draws Cymru y gellir cyfiawnhau y symiau hyn a'u bod yn cynrychioli gwerth am arian i drethdalwyr Cymreig."

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yn y pen draw, materion ar gyfer mudiadau'r Gwasanaeth Iechyd, fel cyflogwyr, yw'r rhain."

"Fe fyddem yn disgwyl iddyn nhw ofyn am gyngor ac arbenigedd priodol i gefnogi eu Pwyllgor a'u Bwrdd Penodiadau wrth wneud penderfyniadau. Pan fo taliadau'n cael eu hystyried, mae'n rhaid iddyn nhw ddangos eu bod yn gwneud y defnydd gorau o gyllid cyhoeddus."

Ymdrechu i symud staff

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Mae diswyddiadau'n cael eu gwneud mewn amgylchiadau eithriadol, megis ail-strwythuro'r bwrdd iechyd."

"Er na fedrwn ni roi ymateb ar fanylion personol, rydym yn ymdrechu i symud unigolion i swyddi addas a dilyn canllawiau llym i gefnogi staff sy'n cael eu heffeithio."

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Mae'r bwrdd iechyd yn adolygu ei strwythurau a'i gwaith yn barhaus, er mwyn sicrhau eu bod yn addas i'w pwrpas, ac mor effeithlon ac mor gost effeithiol ag y gallant fod.

"Mi all hyn, ar brydiau, arwain at swyddi sydd ddim bellach eu hangen, a thra bod pob ymgais yn cael ei wneud i ddod o hyd i waith arall i'r rheiny sy'n cael eu heffeithio, yn ôl y cyfrifoldebau statudol, dydy hyn ddim o hyd yn bosib.

"Pan mae hyn yn digwydd, mae'r bwrdd iechyd yn glwm gan dermau ac amodau a hawliau tâl diswyddo sydd wedi'u cytuno'n genedlaethol. Fel rhan o'r broses, mae achosion busnes cadarn yn cael eu paratoi a'u hystyried sy'n pwyso a mesur cost tâl diswyddo yn erbyn cost y cyflog fyddai wedi'i arbed dros amser."

Rydym yn dal i aros am ymateb Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

'Newid cyfundrefnol"

Mae proses diswyddo'r GIC wedi'u gosod mewn termau ac amodau sy'n berthnasol dros y Deyrnas Unedig i gyd.

Fe ddylai staff sy'n cael eu diswyddo dderbyn mis o gyflog am bob blwyddyn o gyflogaeth, gyda chyfanswm o 24 mis o dâl.

Yn ôl Richard Tompkins, Cyfarwyddwr Cyflogwyr GIC Cymru: "Mae GIC Cymru eisiau atal diswyddiadau gorfodol, allai ddigwydd o ganlyniad i newid cyfundrefnol.

"Mae Polisi Newid Cyfundrefnol ar draws GIC Cymru yn anelu i sicrhau bod y GIC yn cadw gwybodaeth, sgiliau a phrofiad gwerthfawr ei gweithlu.

"Mae'r polisi yn gosod y camau y mae'n rhaid i'r Byrddau a'r Ymddiriedolaethau Iechyd eu dilyn i helpu staff sydd wedi'u dadleoli ddod o hyd i rolau eraill a/neu gyfleoedd i ailhyfforddi o fewn y GIC.

"Os, yn dilyn gweithredu'r prosesau sydd wedi'u hamlinellu yn y Polisi Newid Cyfundrefnol, bod diswyddiadau gorfodol yn anochel, yna mae hawl i staff dderbyn tâl diswyddo.

"Mi ddylai'r taliadau hynny gael eu hamcangyfrif ar sail y termau ac amodau gweithio GIC y DU sy'n cynnwys adran am daliadau diswyddo. Mae'r ddarpariaeth yma ar draws y DU yn berthnasol i GIC Cymru."