Tân yn dinistrio bws mini

Damwain A55
Roedd y tân ar lôn orllewinol yr A55

Cafodd 11 o ddisgyblion a thri athro ddihangfa lwcus cyn i fws mini gael ei ddinistrio oherwydd tân ar yr A55.

Roedd y tân ar lôn orllewinol yr A55 yn ymyl Cae Sioe Môn ger Gwalchmai.

Cyrhaeddodd diffoddwyr o Gaergybi a Rhosneigr am 11.25 fore Mercher cyn gadael am 12.10.

Roedd tagfeydd am fod y ffordd ar gau tra oedd y tân yn cael ei ddiffodd.

Dywedodd y gwasanaeth tân na chafodd neb ei anafu.

"Dydan ni ddim yn gwybod eto beth oedd achos y tân," meddai llefarydd.