Cofeb glofa'r Parlwr Du i lowyr Ffynnongroyw

Mae'r gwaith yn dechrau ar gofeb i'r pwll glo dwfn olaf yng ngogledd Cymru i ddathlu hunaniaeth pentre' yn Sir y Fflint.
Roedd 60 o bobl leol yn bresennol wrth i'r cynghorydd sir Carolyn Thomas dorri'r dywarchen gynta' ar y safle newydd.
Fe gaeodd y Parlwr Du ger Prestatyn yn 1996 wedi dros 100 mlynedd.
Fe ddilynodd y rhan fwyaf o fechgyn pentref Ffynnongroyw eu tadau a'u teidiau i weithio yn y pwll.
Ond mae ofnau y bydd trigolion ieuengaf y pentref yn anghofio am draddodiad glofaol yr ardal.
Dywedodd Mike Jones, ysgrifennydd Grŵp Treftadaeth Ffynnongroyw, bod y pwll wedi agor yn y 1880au, a'i fod yn cyflogi 500 o weithwyr yn ei anterth.
Oes aur
Ychwanegodd bod Ffynnongroyw yn llawn bythynnod i'r glowyr ac y byddai'r "awyrgylch gymunedol yn anferth" yn ystod oes aur y pwll.
"Cafodd Ffynnongroyw ei adeiladu fel pentref glofaol," meddai Mr Jones.
"Tua 30 mlynedd yn ôl, Cymraeg oedd iaith y pentref gan fwyaf, ond erbyn hyn mae nifer yn aros yma dros dro ac mae 'na lawer wedi symud o'ma.
"Gobeithio bydd y gofeb yn dod â hunaniaeth y pentref yn ôl.
"Mae'r holl dreftadaeth yn prysur ddiflannu.
"Os na wnawn ni rywbeth i'w warchod, fe fydd o wedi mynd.
"Dw'i ddim yn meddwl fod y tô iau yn ymwybodol o'r traddodiad."
'Mynd ar goll'
Pan ddaeth gwaith yn y pwll i ben, roedd gan rai o bobl Ffynnongroyw ofn y byddai eu hunaniaeth arbennig yn mynd ar goll - dim ond plac oedd yn o i nodi gorffennol diwydiannol y pentref.
Roedd yna ofn hefyd y byddai gwybodaeth am y diwydiant a'i sgiliau yn diflannu.
Rwan, bydd y peirianwaith oddi ar ben y pwll yn cael ei adnewyddu, a'i ail-godi ar ochr y ffordd rhwng Ffynnon groyw a Phrestatyn.
Mae gobaith y bydd lle i eistedd a byrddau gwybodaeth.
Eisoes, mae'r grŵp wedi codi tua £4,500 tuag at y prosiect, ac mae asiantaeth Cadwyn Clwyd wedi cyfrannu mwy na £6,000.
Yn ogystal ag atgoffa pentrefwyr o'u treftadaeth, mae gobaith y bydd y gofeb yn denu twristiaeth wrth i bobl alw draw i'w gweld hi.