Merch 13 oed: Marw'n ddamweinol

Georgia Marshall
Roedd Georgia wedi bod yn helpu ei thad i baratoi at y Nadolig y noson bu hi farw

Mae'r cwest i farwolaeth Georgia Marshall wedi penderfynu mai marw'n ddamweiniol wnaeth y ferch 13 oed o'r Barri.

Bu farw Georgia pan gafodd hi sioc drydanol wrth iddi helpu ei thad i gario addurniadau Nadolig o'r atig fis Tachwedd 2013.

Roedd hi'n gafael mewn ysgol pan gafodd hi'r sioc 240 folt.

Clywodd y cwest bod ei thad, Richard, yn credu mai chwarae jôc arno oedd Georgia, a'i fod o wedi cario 'mlaen i 'nol addurniadau am 10 munud cyn sylwi bod rhywbeth o'i le.

Galw ambiwlans

Ddeng munud yn ddiweddarach, wedi i ddau aelod arall o'r teulu gael sioc fechan, fe sylwon nhw beth oedd wedi digwydd a galw am ambiwlans.

Fe fethodd y parafeddygon ag achub Georgia, wedi i gerrynt y sioc effeithio ar ei chalon.

Dywedodd ei thad wrth y cwest: "Roedd y plant i gyd yn edrych ymlaen at 'nol yr addurniadau. Fe ddaeth Georgia ar y landin yn gwisgo'i phyjamas, a dwi'n meddwl ei bod hi wedi gafael yn yr ysgol gyda'i dwy law.

"Nes i glywed sŵn, a'i gweld hi'n gorwedd ar y llawr ar ben y cebl. Ro'n i'n meddwl mai jôc oedd e. Roedd hi wastad yn tynnu coes.

"Pan sylwais i be' oedd wedi digwydd, ro'n i wedi synnu, 'nes i fynd i banig..."

Cebl wedi gwisgo

Clywodd y cwest bod gan yr ysgol alwminiwm gebl wedi ei rwymo o'i hamgylch er mwyn cario trydan at fwlb golau yn yr atig.

Roedd gorchudd rwber y cebl wedi gwisgo, gan ddatgelu gwifren fyw.

Meddai Paul Farley, peiriannydd gyda Western Power Distribution, wrth y cwest: "Wrth i'r ysgol gael ei defnyddio a'i chadw dros amser, roedd y cebl wedi gwisgo.

"Roedd y wifren fyw mewn golwg, a phe byddai'r wifren wedi cyffwrdd yr ysgol yna fe fyddai hi wedi dod yn fyw hefyd.

"Pe byddai'r cerrynt wedi cyffwrdd ceudod brest Georgia, byddai wedi effeithio ar ei chalon."

Dywedodd y Dirprwy Grwner Christopher Woolley fod Georgia wedi marw "bron yn syth".