Dadorchuddio darn o gelf ym Mharc Bute, Caerdydd

Yr artist Rubin Eynon
Mae gwaith Rubin Eynon yn dangos sut olwg oedd ar y safle

Mae darn o gelf wedi cael ei ddadorchuddio wrth i safle hanesyddol gael ei adfer.

Ym Mharc Bute yng Nghaerdydd mae safle Brodordy'r Brodyr Duon yn Heneb Gofrestredig.

Mae'n dyddio'n ôl i'r ddeuddegfed ganrif a'r brodordy'n un o'r pwysicaf yng Nghymru.

Yr artist Rubin Eynon, sy'n gweithio yn ne Cymru, sy'n gyfrifol am y darn celf.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Chwaraeon, Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Ramesh Patel: "Mae'r gosodiad unigryw hwn yn rhan o adnewyddu safle Brodordy'r Brodyr Duon ...

"Bydd y gwaith yn dangos sut olwg oedd ar y safle."

Cafodd y brodordy ei drosglwyddo i'r goron ym 1538 a'i ddiddymu ynghyd â'r mynachlogydd eraill.

Ysbeiliwyd y safle ac ni chafodd y seiliau eu darganfod hyd nes y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Trefnodd yr Ardalydd Bute i'r safle gael ei gloddio cyn y daethpwyd o hyd i gynllun gwreiddiol yr adeiladau.

Cafodd rhan o gynllun yr Ardalydd ei hadfer, rhan o brosiect gwerth £5.6m i adfer Parc Bute yn sgil grant o £3.1 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.