Comisiynydd y Gymraeg yn mynd i gyfraith

  • 19 Chwefror 2014
Meri Huws
Dyma fydd y tro cyntaf i'r Comisynydd ddefnyddio'i phwerau i fynd â chorff cyhoeddus i'r llys.

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn mynd i gyfraith am y tro cyntaf i geisio sicrhau bod corff cyhoeddus yn darparu gwasanaethau yn y Gymraeg.

Mae Meri Huws yn galw am adolygiad barnwrol yn dilyn penderfyniad yr asiantaeth Cynilion Cenedlaethol a Buddsoddiadau (NS&I) i beidio parhau gyda'u cynllun iaith Gymraeg.

Bron i ddwy flynedd ers iddi ddechrau fel Comisiynydd y Gymraeg, bydd Meri Huws yn defnyddio'i phwerau i fynd â chorff cyhoeddus i'r llys am y tro cyntaf.

Bydd hi'n defnyddio pwerau ddaeth i rym fel rhan o adran 8 Mesur yr Iaith Gymraeg 2011.

Ym mis Ebrill, dywedodd yr asiantaeth lywodraethol na fydden nhw'n parhau gyda'u cynllun iaith Gymraeg, gan honni nad oedd llawer o gwsmeriaid yn cyfathrebu yn y Gymraeg a'i bod yn gostus parhau gyda'r cynllun

Mae NS&I yn honni mai 107 o'u cwsmeriaid yn unig, o gyfanswm o dros 1.5 miliwn o bobl, oedd wedi cyfathrebu gyda nhw yn y Gymraeg, sef 0.007%.

Amcangyfrif y cwmni oedd ei bod hi'n costio tua £900 y pen bob blwyddyn i ddarparu gwasanaethau Cymraeg i'w cwsmeriaid.

Gofynnodd y comisiynydd i'r corff ailystyried ond cafodd ei chais ei wrthod.

Bydd barnwr Uchel Lys yn penderfynu a fydd yn rhaid iddyn nhw ailddechrau'r polisi.