Pobl y Barri yn gadael eu cartrefi oherwydd gwynt a glaw

  • 15 Chwefror 2014
Fflatiau y Barri Image copyright Nigel Gabriel
Image caption Roedd rhaid i bobl adael eu fflatiau yn y Barri wedi i'r to ddechrau chwythu i ffwrdd

Mae rhybuddion melyn ar gyfer gwynt a glaw yn parhau i fod mewn grym yn y de a'r canolbarth.

Mae disgwyl gwyntoedd cryf o hyd at 70 milltir yr awr mewn mannau arfordirol.

Roedd y gwyntoedd cryfion wedi parhau nos Wener gyda'r hyrddiadau mwyaf o 81 mya wedi'u cofnodi yn y Mwmbwls, ger Abertawe.

Bu'n rhaid i 17 o bobl adael eu cartrefi mewn bloc o fflatiau yn y Barri yn ystod y nos, gan fod to'r adeilad wedi chwythu i ffwrdd.

Mae dau rybudd am lifogydd mewn grym ar hyn o bryd. Gellir gweld y manylion diweddaraf ynglyn â'r rhybuddion llifogydd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Bydd hi'n gawodlyd, gyda chawodydd trwm ar brydiau. Mae disgwyl i'r gwynt ostwng yn ystod y prynhawn, ond bydd yn teimlo'n oerach oherwydd ei fod yn chwythu o'r gorllewin.

Image caption Roedd glaw trwm ar draws dde Cymru yn oriau man fore Sadwrn

4000 heb bŵer

Roedd y tywydd garw ddydd Iau a dydd Gwener wedi arwain at filoedd o gartrefi'n colli eu cyflenwad trydan - mae Scottish Power wedi addo talu am brydau pobl gafodd eu heffeithio.

Pnawn Sadwrn, dywedodd y cwmni bod bron 2,800 o gwsmeriaid heb drydan - 1,800 yn sgil storm ddydd Mercher a 1,000 yn ychwanegol ar ôl noson stormus nos Wener.

Dywedodd eu cyfarwyddwr gweithredol, Guy Jefferson, wrth BBC Radio Wales fore Sadwrn: "Mewn un diwrnod, dydd Mercher, yn y gogledd, fe wnaethon ni weld cyfwerth blwyddyn o geblau trydan yn syrthio."

Mae'n debyg bod rhai ardaloedd heb bŵer ar draws y gogledd, gyda mwy hefyd yng Ngwynedd, o amgylch Aberystwyth, Drenewydd ac ar draws i ddyffryn Dyfrdwy.

Fe ymddiheurodd i gwsmeriaid am yr anghyfleustra a diolch am eu hamynedd.

Mae Scottish Power hefyd wedi dweud eu bod yn fodlon talu hyd at £30 y dydd am brydau i bob person sydd wedi cael eu heffeithio ers stormydd dydd Mercher.

Image caption Ailgyflenwi pŵer i'r rheiny sydd yn dal heb gyflenwad trydan

Problemau teithio

Mae'r tywydd drwg wedi achosi problemau mawr i deithwyr fore Sadwrn.

  • Roedd yr A48 yr hen bont Hafren ar gau oherwydd gwyntoedd cryfion a lori wedi cwympo ar ei hochr,
  • Roedd yr A40 Heol Aberhonddu y tu allan i Ysbyty Nevill Hall, y Fenni, ar gau oherwydd coeden wedi cwympo.
  • Hefyd yn ardal y Fenni, roedd llifogydd ar yr A4042 rhwng Heol Trefynwy yn y Fenni a'r B4269 yn Llanelen yn golygu bod y ffordd ar gau.
  • Mae'r A4081 yn Llandrindod, Powys, ar gau oherwydd coeden wedi syrthio rhwng Stryd y Deml a'r A470.
  • Mae'r A470 yn Rhaeadr ar gau, eto oherwydd bod coeden wedi syrthio rhwng Heol yr Eglwys a'r A44 yn Llangurig.
  • Ar yr A490 yn y Trallwng, mae llifogydd rhwng cylchdro Sarn Bryn Caled a Pont Cilcewydd yn golygu bod y ffordd ar gau.
  • Mae'r A498 yng Ngwynedd wedi cau i'r ddau gyfeiriad oherwydd coeden ar y ffordd rhwng Prenteg ac Aberglaslyn.

Dyn wedi marw yn y stormydd

Dydd Gwener, daeth cadarnhad bod un gŵr o ardal Caernarfon wedi marw yn y stormydd ddydd Mercher.

Bu farw Bob Thomas, oedd yn 77 oed, wedi i goeden syrthio a'i daro yn ei ardd yng Nghaeathro.

Mae'r gwaith clirio ac atgyweirio wedi dechrau eto ac mae eraill yn dechrau cyfri cost yr holl ddifrod.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn aros i weld a fydd unrhyw arian ar gael drwy Lywodraeth Prydain i helpu'r rhai sydd wedi'u heffeithio.

Mae David Cameron wedi dweud y bydd busnesau sydd wedi cael eu taro yn Lloegr yn gallu hawlio 100% o ostyngiad yn eu trethi busnes am dri mis, yn ogystal â gohirio eu taliadau treth.

Mae Llywodraeth Cymru yn gymwys i dderbyn cyfran o unrhyw nawdd ychwanegol, newydd fydd yn cael ei ryddhau gan y Trysorlys, ond os yw'n dod o gronfa wrth gefn, yna ni fydd Cymru'n gallu hawlio unrhyw arian ganddyn nhw.

Straeon perthnasol