Effaith y toriadau lles ar boced y Cymry

oedolyn tlawd
Image caption Bydd oedolyn o oedran gweithio yng Nghymru yn colli £500 ar gyfartaledd, yn ôl y ffigyrau newydd.

Bydd oedolion oedran gweithio yng Nghymru'n colli cannoedd o bunnoedd y flwyddyn yn sgil toriadau lles Llywodraeth y DU, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Yn ôl ffigyrau newydd, bydd oedolyn o oedran gweithio yng Nghymru yn colli £500 ar gyfartaledd.

Castell-nedd Port Talbot, Blaenau Gwent a Merthyr Tudful fydd yn cael eu taro galetaf gan y newidiadau, gyda'r golled flynyddol fesul oedolyn o oedran gweithio yn yr ardaloedd hyn tua £600 ar gyfartaledd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd Cymru'n colli cyfanswm o tua £930 miliwn o incwm erbyn 2015/16 o ganlyniad i gynlluniau San Steffan ar gyfer nawdd cymdeithasol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu cyfres o adroddiadau er mwyn ceisio deall effaith lawn y newidiadau i'r system les ar bobl Cymru, ac wedi bod yn edrych ar nifer yr hawlwyr sy'n cael eu heffeithio a'r effaith bosib ar incwm.

Yn ôl yr ymchwil, amcangyfrifir mai'r tri awdurdod lleol a fydd yn colli'r cyfanswm uchaf o incwm yw - Caerdydd (£103 miliwn), Rhondda Cynon Taf (£81 miliwn) ac Abertawe (£75 miliwn). Mae hynny'n cyfateb i 28% o gyfanswm Cymru.

Maen nhw'n dweud y bydd cryn dipyn o effaith ar incwm pobl sy'n sâl ac yn anabl.

Dywedodd Jeff Cuthbert, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, bod yr ymchwil diweddaraf hwn yn dangos sut y bydd "penderfyniadau San Steffan yn cael effaith gwirioneddol ar yr arian ym mhocedi nifer o deuluoedd, a bydd hynny yn ei dro yn effeithio ar ansawdd eu bywydau".

"Rydym yn siarad am symiau a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau rhai pobl.

"Mae rhai o'r toriadau yn taro teuluoedd incwm isel ar yr un adeg ag y mae eu hincwm yn cael ei wasgu, ac wrth iddynt straffaglu i fedru talu eu costau bob dydd.

"Y gwir yw y byddwn yn gweld sawl un ar ei golled, ac y bydd economi ehangach nifer o gymunedau hefyd yn dioddef wrth i bobl fod â llai o arian i wario ar wasanaethau a siopau lleol."

Mae'n ychwanegu nad oes unrhyw ffordd y gall Llywodraeth Cymru, o fewn eu cyllideb, gamu i mewn i'r bwlch sy'n cael ei greu, ond y byddan nhw'n parhau i geisio gwneud eu gorau i helpu'r rhai fydd yn cael eu heffeithio, drwy gryfhau'r gwasanaethau cynghori sydd ar gael.

Dros y misoedd diwethaf, mae'r Llywodraeth yn dweud eu bod wedi neilltuo rhagor o arian i helpu undebau credyd i ehangu, cefnogi gwasanaethau cynghori yn y cymunedau tlotaf, ac ehangu rhaglen Dechrau'n Deg i helpu teuluoedd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

Ymateb

Mae llywodraeth y DU yn dadlau eu bod wedi gweithredu i leihau costau byw drwy rewi'r dreth ar danwydd, a thrwy gynyddu'r cyflog y mae pobl yn ei ennill cyn dechrau talu treth incwm i £10,000.

Mae'n dadlau y bydd y mesurau yna'n arbed £700 y flwyddyn i drethdalwr cyffredin.

Dywedodd yr AS Ceidwadol dros Aberconwy, Guto Bebb, wrth BBC Radio Wales bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi diystyru'r buddion yma o'r diwygiadau i'r system.

Dywedodd: "Mae'r adroddiad yma yn fy nharo i fel safbwynt gwleidyddol gan y Cynulliad, ac yn anwybyddu cymaint o wybodaeth a fyddai'n rhoi cydbwysedd i'r darlun llawn."

Straeon perthnasol